Rhybudd am wahardd beicwyr mynydd oddi ar Yr Wyddfa

  • Cyhoeddwyd
Beicio EryriFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Does dim beicio ar lwybrau Llanberis, Cwellyn na Rhyd Ddu rhwng 10:00 a 17:00 yn yr haf

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn rhybuddio y gallai beicwyr mynydd gael eu gwahardd oddi ar Yr Wyddfa am fod rhai yn mynd yn groes i gytundeb rhwng seiclwyr a'r awdurdod.

Mae cytundeb anffurfiol rhwng beicwyr mynydd a'r awdurdod wedi bodoli ers 15 mlynedd, sy'n atal beicio ar y tri llwybr mwyaf poblogaidd i'r copa rhwng 10:00 a 17:00.

Dywedodd yr awdurdod bod beicwyr mynydd wedi cael eu dal yn mynd yn groes i'r cyfyngiad gwirfoddol yma, a bod eraill yn beicio'n anystyriol o ddiogelwch cerddwyr.

Maen nhw wedi rhybuddio y gallai dyfodol beicio mynydd ar Yr Wyddfa fod mewn perygl pe bai'r arfer o dorri'r cytundeb anffurfiol yn parhau.

Mae elusen Cycling UK wedi galw ar unrhyw un sy'n meddwl beicio yn yr ardal i barchu'r cyfyngiadau i sicrhau nad oes gwaharddiad yn dod i rym.

'Tanseilio enw da seiclwyr'

Cafodd y cytundeb ei lunio yn 2003 yn dilyn trafodaethau rhwng awdurdod y parc cenedlaethol ac elusennau seiclo.

Mae'n golygu nad oes beicio ar y tri phrif lwybr - Llanberis, Cwellyn a Rhyd Ddu - rhwng 10:00 a 17:00 o ddechrau Mai nes diwedd Medi.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cycling UK yn annog seiclwyr i fynd ar y mynydd un ai'n gynnar neu'n hwyr yn y diwrnod

Dywedodd prif weithredwr Cycling UK, Paul Tuohy bod "ymddygiad lleiafrif yn berygl o danseilio enw da'r gymuned seiclo ehangach, a bygwth yr hawl i eraill fwynhau'r Wyddfa".

Ychwanegodd Peter Rutherford o Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri: "Mae'r cytundeb wedi gweithio'n dda am nifer o flynyddoedd, sy'n dangos bod pob defnyddiwr yn gallu rhannu'r llwybrau'n llwyddiannus.

"Mae angen i unigolion gydymffurfio er mwyn i hyn weithio, ac mae'r mwyafrif yn gwneud hynny."