Ffeinal Pro14: Scarlets yn colli yn erbyn Leinster

  • Cyhoeddwyd
Hadleigh Parkes of Scarlets is tackled by Isa Nacewa and Sean Cronin of LeinsterFfynhonnell y llun, Chris Fairweather/Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,

Isa Nacewa a Sean Cronin o Leinster yn taclo Hadleigh Parkes yn hanner cyntaf y gêm

Colli yn erbyn Leinster wnaeth y Scarlets yng ngêm derfynol y Pro14.

Mewn gêm gyffrous yn Nulyn fe gurodd y Gwyddelod y Cymry o 40 i 32.

O fewn chwe munud roedd yna dri phwynt i Leinster wedi gôl gosb Jonny Sexton ond ddwy funud wedyn fe lwyddodd Leigh Halfpenny i unioni'r sgôr.

Cic arbennig wedyn gan Leigh Halfpenny i roi'r Scarlets ar y blaen ond o fewn munudau gôl gosb arall i Jonny Sexton a dyma unioni'r sgôr eto.

Ond fu'r sgôr ddim yn gyfartal yn hir gan i Sexton sicrhau gôl gosb arall ac wedi 29 munud roedd yna gais i Devin Toner gan ddod â'r sgôr i 14-6. Methiant fu ymdrech Sexton i gael trosiad.

Tro'r Scarlets oedd hi wedyn wrth i Johnny McNicholl sgorio cais wedi gwaith paratoi da gan Steff Evans ac wedi 35 munud tri phwynt oedd ynddi.

Ond cyn diwedd hanner amser Aaron Shingler yn gorfod gadael y cae oherwydd anaf ac fe gafodd mwy o wynt ei dynnu o hwyliau'r Scarlets wrth i James Lowe sgorio cais i Leinster ac roedd trosiad Sexton eto yn llwyddiannus.

Y sgôr ar hanner amser oedd 21-11.

'Sicrhau'r fuddugoliaeth'

Roedd y ddau dîm ar dân ar ddechrau'r ail hanner ac yn y munudau cyntaf roedd amddiffyn y Scarlets yn gryf wrth iddynt beidio ag ildio i bwysau Leinster.

Y Gwyddelod a sgoriodd gyntaf wrth i Sean Cronin sgorio cais ac roedd cicio Sexton yn gwbl gywir unwaith eto gan ddod â'r sgôr i 28-11.

Wedi gwta awr i mewn i'r gêm cais arall i Leinster (33-11) gan Jordan Larmour.

Chwarter awr cyn diwedd y gêm fe adawodd rhai o gefnogwyr y Scarlets yn gynnar ond petaent wedi aros mi fuasent wedi gweld Johnny McNichol yn sgorio cais i'w tîm ac roedd trosiad Leigh Halfpenny yn llwyddiannus (33-18).

Ond yna cais llwyddiannus gan Jack Conan - y pumed i Leinster ac wrth i'r trosiad lwyddo roedd y sgôr yn 40-18 ddeg munud cyn y chwiban olaf.

14 dyn oedd gan y Scarlets ym munudau olaf y gêm wrth i Jonathan Evans gael triniaeth ond cyn diwedd y gêm roedd yna gais cysur i'r cochion gan Werner Kruger ac fe lwyddodd trosiad Daniel Jones hefyd.

Ond yna fe ddaeth cais arall i Johnny McNicholl - y trydydd ac roedd cicio Halfpenny eto yn gywir.

Y sgôr terfynol oedd 40-32 ac yn ôl yr arbenigwyr roedd y fuddugoliaeth yn un haeddiannol i dîm gorau Ewrop.

Seren y gêm oedd Jonny Sexton.

'Wedi gobeithio ailadrodd profiad llynedd'

Fis yn unig yn ôl, yn yr un stadiwm, cafodd y Scarlets eu trechu o 38-16 gan Leinster yn rownd gynderfynol Cwpan Pencampwyr Ewrop.

Er mwyn cyrraedd y rownd derfynol yn Stadiwm Aviva roedd y Scarlets wedi trechu'r Cheetahs yn rownd y chwarteri a Glasgow yn y rownd gynderfynol.

Roedd y Cymry'n ceisio ailadrodd eu llwyddiant y llynedd, pan wnaethon nhw drechu Munster o 46-22 i ennill y gynghrair - y Pro12 bryd hynny - ond methiant fu eu hymdrech yn 2018.