Bwlch rhwng y tlawd a'r cyfoethog yn 'argyfwng'

  • Cyhoeddwyd
tlodiFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae angen i athrawon, darlithwyr a phobl fusnes wneud mwy i geisio lleihau'r bwlch rhwng y tlawd a'r cyfoethog, yn ôl cyn-bennaeth y Comisiwn Symudedd Cymdeithasol.

Dywedodd Alan Milburn fod "argyfwng cymdeithasol" ac nad oedd pobl yn gallu "sefyll yn segur".

Ychwanegodd fod angen i weinidogion Cymru arwain ymdrechion i wella swyddi, addysg, trafnidiaeth a thai.

Yr wythnos diwethaf fe wnaeth Llywodraeth Cymru osod pum prawf i fesur eu cynnydd ar ddarparu mwy o gyfleoedd addysg.

'Gwaethygu'

Cafodd y meini prawf eu cyhoeddi gan yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams mewn cynhadledd y Brifysgol Agored yn trafod symudedd cymdeithasol, ble roedd Mr Milburn hefyd yn siarad.

Maen nhw'n cynnwys cau'r bwlch rhwng Cymru a gweddill y DU ar bob lefel cymwysterau o fewn 10 mlynedd, a chynyddu nifer y myfyrwyr sy'n astudio ar lefel meistr o 10% erbyn 2021.

Fe wnaeth Mr Milburn ymddiswyddo fel cadeirydd y Comisiwn Symudedd Cymdeithasol ym mis Rhagfyr y llynedd, gan ddweud mai ychydig iawn o dystiolaeth yr oedd wedi'i weld o "weithredu ystyrlon".

Dywedodd Llywodraeth y DU fod ei dymor wedi dod i ben a'u bod wedi penderfynu dod â "gwaed newydd" i mewn.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Alan Milburn fod angen i arweinwyr cymdeithas gymryd cyfrifoldeb

Mae gan Gymru gyfradd tlodi uwch na Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, ac maen nhw hefyd tu ôl i'r gwledydd eraill mewn profion addysg ryngwladol.

"Allwn ni ddim sefyll yn segur a dweud bod argyfwng cymdeithasol yn digwydd, fod symudedd cymdeithasol yn gwaethygu... a dweud nad ydy o'n unrhyw beth i'w wneud efo ni," meddai Mr Milburn.

"Mae gan arweinwyr lleol, mewn llywodraeth, llywodraeth leol, yn arwain busnesau, prifysgolion, mae ganddyn nhw gyfrifoldeb wrth gymryd rôl i wneud gwahaniaeth.

"Ac mae'n rhaid i fusnesau, prifysgolion, colegau ac ysgolion gymryd rhan yn hynny."

Ychwanegodd Mr Milburn, oedd yn ysgrifennydd iechyd yn llywodraeth Tony Blair: "Os 'dyn ni'n parhau fel hyn fe fyddwn ni'n mynd hyd yn oed yn fwy rhanedig - nid dyna beth mae'r wlad eisiau."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae gan ein holl bolisïau mewn llywodraeth wedi'u dylunio i annog ffyniant a chreu cyfleoedd i bobl Cymru."