Ymchwiliad pellach i gysylltiad yr heddlu â llofrudd

  • Cyhoeddwyd
davidsonFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jordan Davidson wedi'i ddedfrydu i oes o garchar am lofruddio Nicholas Churton ym mis Mawrth 2017

Mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) wedi cadarnhau eu bod yn ymchwilio ymhellach i'r ffordd wnaeth Heddlu Gogledd Cymru ymdrin gyda dyn wnaeth wedyn lofruddio dyn arall 67 oed yn Wrecsam.

Fe gafodd Jordan Davidson garchar am oes ar ôl pledio'n euog i lofruddio Nicholas Churton yn ei gartref ym mis Mawrth 2017.

Fe gafodd dedfryd Davidson ei gynyddu ar ôl i'r Cyfreithiwr Cyffredinol, Robert Buckland QC benderfynu nad oedd y ddedfryd yn ddigonol, ac fe ofynnodd i'r Llys Apêl edrych ar yr achos.

Fe benderfynodd y barnwr fod yn rhaid iddo dreulio o leiaf 30 mlynedd yn y carchar yn hytrach na 23 mlynedd.

Mae'r ymchwiliad pellach gafodd ei gyfeirio at yr IOPC gan y llu, yn edrych ar y cysylltiad rhwng Davidson a'r heddlu rhwng mis Rhagfyr 2016 a Mawrth 2017 tra ei fod wedi'i ryddhau o'r carchar ar drwydded.

Disgrifiad o’r llun,

Cafwyd hyd i gorff Nicholas Anthony Churton yn ei gartref yn Wecsam ar 27 Mawrth 2017

Dywedodd Cyfarwyddwr Cymru yr IOPC, Catrin Evans: "Cafodd Jordan Davidson ei ryddhau o'r carchar ar drwydded yn Rhagfyr 2016.

"Fe gafodd Heddlu Gogledd Cymru ychydig o gysylltiad dros gyfnod o fisoedd gyda Davidson cyn iddo lofruddio Nicholas Churchon yn ei gartref yn Wrecsam.

"Bydd ein hymchwiliad newydd yn edrych i weld os wnaeth Heddlu Gogledd Cymru gydymffurfio gyda pholisïau cenedlaethol a lleol yr heddlu wrth ddelio gyda digwyddiadau oedd yn ymwneud a Davidson, ac wrth gysylltu gydag asiantaethau eraill oedd yn ymwneud gyda chadw golwg arno ar ôl iddo gael ei ryddhau o'r carchar.

"Bydd ein hymchwiliad cyntaf yn edrych ar gysylltiad Davidson gyda Mr Churchon yn y pythefnos cyn iddo lofruddio."

Ychwanegodd bod yr ymchwiliad bron a'i orffen a'u bod mewn cysylltiad cyson gyda theulu Mr Churchon a Heddlu Gogledd Cymru er mwyn rhoi gwybod iddynt am unrhyw ddatblygiadau.