Cymru'n cyhoeddi tîm ifanc i herio De Affrica ddydd Sadwrn

  • Cyhoeddwyd
Tomos WilliamsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Tomos Williams, sydd wedi chwarae dros dîm saith-bob-ochr Cymru, yn ennill ei gap cyntaf dros ei wlad

Mae Warren Gatland wedi enwi tîm cymharol ifanc a dibrofiad i wynebu De Affrica yn Washington DC ddydd Sadwrn.

Mae wyth o'r 15 sy'n ddechrau'r gêm wedi ennill llai na 10 cap rhyngwladol hyd yma.

Bydd y mewnwr Tomos Williams, sydd eisoes wedi cynrychioli timau dan-20 a saith-bob-ochr Cymru, yn ennill ei gap llawn cyntaf.

Fe allai'r blaenasgellwr Aaron Wainwright hefyd ennill ei gap cyntaf oddi ar y fainc.

'Datblygu'

Er bod sylfaen ifanc i'r tîm, mae sawl enw cyfarwydd hefyd gan gynnwys George North, Bradley Davies a Ross Moriarty.

Wythwr y Gleision, Ellis Jenkins fydd capten Cymru wrth herio'r Springboks yn Stadiwm RFK, gyda'r gic gyntaf am 22:00 amser Cymru.

Bydd y maswr Rhys Patchell ar y fainc os yw'n pasio prawf ffitrwydd hwyr - fel arall, Gareth Davies fydd yn cymryd ei le.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Ellis Jenkins, sydd wedi ennill chwech o gapiau dros Cymru, fydd y capten ddydd Sadwrn

Yn y cyfamser, mae De Affrica wedi cyhoeddi tîm dibrofiad iawn, gyda saith o'r 15 sy'n dechrau yn ennill eu capiau cyntaf, ac mae'n bosib y bydd chwech arall yn ymddangos am y tro cyntaf oddi ar y fainc.

Dywedodd Gatland fod yr ornest ddydd Sadwrn yn gyfle i rai o garfan Cymru ehangu eu profiad o chwarae rygbi rhyngwladol a hawlio lle yn y tîm.

"Mae popeth 'dyn ni'n ei wneud yn gweithio tuag at Gwpan y Byd mewn 15 mis, ac fe fydd y tair gêm nesaf yn rhan hynod bwysig o'n datblygiad," meddai.

Ar ôl herio De Affrica mae gan Gymru ddwy brawf yn erbyn yr Ariannin, yn San Juan a Santa Fe.

Tîm Cymru

Hallam Amos; Tom Prydie, George North, Owen Watkin, Steff Evans; Gareth Anscombe, Tomos Williams; Nicky Smith, Elliot Dee, Dillon Lewis, Bradley Davies, Cory Hill, Seb Davies, Ellis Jenkins (c), Ross Moriarty.

Eilyddion: Ryan Elias, Wyn Jones, Rhodri Jones, Adam Beard, Aaron Wainwright, Aled Davies, Rhys Patchell/Gareth Davies, Hadleigh Parkes.

Tîm De Affrica

Curwin Bosch; Travis Ismaiel, Jesse Kriel, Andre Esterhuizen, Makazole Mapimpi; Elton Jantjies, Ivan van Zyl; Ox Nche, Chiliboy Ralepelle, Wilco Louw, Jason Jenkins, Pieter-Steph du Toit, Kwagga Smith, Oupa Mohoje, Dan du Preez.

Eilyddion: Akker van der Merwe, Steven Kitshoff, Thomas du Toit, Marvin Orie, Sikhumbuzo Notshe, Embrose Papier, Robert du Preez, Warrick Gelant.