Pencampwriaeth Rygbi'r Byd Dan-20: Awstralia 21-26 Cymru

  • Cyhoeddwyd
Joe Goodchild yn sgorioFfynhonnell y llun, Gareth Everett

Mae tîm rygbi dan-20 Cymru wedi dechrau eu hymgyrch ym Mhencampwriaeth y Byd yn Ffrainc gyda buddugoliaeth ar ôl trechu Awstralia o 26-21.

Daeth cais gyntaf y gêm i'r tîm o hemisffer y de drwy Mack Hansen, ond roedd Cymru ar y blaen erbyn yr egwyl wedi i Ioan Nicholas a Joe Goodchild dirio.

Fe wnaeth Cai Evans gicio 16 o bwyntiau dros y crysau cochion er mwyn cadw'u mantais, gyda chais hwyr Tate McDermott ddim yn ddigon i hawlio buddugoliaeth i'r Wallabies ifanc.

Bydd Cymru'n herio Seland Newydd yn Beziers ar 3 Mehefin, cyn cwblhau eu gemau grŵp yn erbyn Japan ar 7 Mehefin yn Perpignan.