Cyhuddo dyn o lofruddio dynes ym Merthyr Tudful

  • Cyhoeddwyd
Heddlu a Denise RosserFfynhonnell y llun, BBC/Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i dŷ yn Stryd Lewis ym Medlinog fore Mawrth cyn dod o hyd i gorff Michelle Denise Rosser

Mae Heddlu'r De wedi cadarnhau fod dyn 49 oed wedi cael ei gyhuddo o lofruddio dynes ym Merthyr Tudful.

Cafodd yr heddlu eu galw i dŷ yn Stryd Lewis ym Medlinog fore Mawrth cyn dod o hyd i gorff Michelle Denise Rosser, 38 oed.

Mae Simon Winstone wedi cael ei gyhuddo o lofruddio Ms Rosser ac mae disgwyl iddo ymddangos o flaen ynadon fore Gwener.

Mae teulu Ms Rosser yn ymwybodol o'r datblygiadau ac maen nhw'n parhau i gael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.

Teyrnged teulu

Mewn datganiad dywedodd teulu Ms Rosser: "Rydym yn cydnabod fod Denise wedi wynebu nifer o heriau mewn bywyd oedd ar adegau yn un cythryblus.

"Fel teulu roeddem yn ceisio ei chefnogi ac rydyn yn gobeithio ei bod hi nawr mewn heddwch."

Mae Heddlu'r De yn parhau i apelio am wybodaeth ac yn annog pobl welodd unrhyw un yn ymddwyn yn amheus ar Stryd Lewis rhwng 20:00 nos Wener, 25 Mai, a 06:45 fore Mawrth, 29 Mai i gysylltu â'r llu.