Pryder am effaith algae ar sewin afon yn Sir Gâr
- Cyhoeddwyd
Dyw sewin ddim wedi bod yn mudo ar hyd afon yng ngorllewin Cymru gan fod y dŵr yn rhy fudr, yn ôl grŵp o bysgotwyr.
Mae llwybr teithio arferol y sewin yn eu harwain i fyny'r Afon Tywi yn Sir Gâr, ond mae'r pysgotwyr yn credu fod cynnydd yn lefel yr algae ar fai am y newid eleni.
Dywedodd Anthony Peyando o Glwb Pysgota Llandeilo y byddai'n "disgwyl i fod wedi dal ambell i sewin erbyn hyn, ond does dim golwg ohonynt".
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn ymchwilio i'r mater.
'Cwbl ddigynsail'
Fyddai pysgotwyr yn disgwyl gweld y sewin yn mudo ar hyd yr afon o fis Mai ymlaen, ond mae rhai wedi sylwi ar gasgliad o algae ger Llangadog ac wedi nodi cysylltiad posib.
Wrth i'r planhigyn gynyddu mewn nifer, mae lefel yr ocsigen yn yr afon yn gostwng.
Yn ôl Mr Peyando, sydd wedi bod yn pysgota yn yr afon ers 30 mlynedd, dydi o erioed wedi gweld y fath lefelau algae.
"Mae'r peth yn gwbl ddigynsail, ac yn dangos ein bod ni ddim yn gwarchod yr amgylchedd," meddai is-gadeirydd y clwb.
Mae rhai pysgotwyr yn beio llygredd amaethyddol am y twf mewn lefelau algae, gan fod nitradau yn gallu llifo i afonydd.
'Canlyniadau aneglur'
Dywedodd Stephen James, llefarydd ar ran NFU Cymru: "Gall ffermio fwy dwys fod yn rhan o'r broblem ond mae yna achosion eraill hefyd."
Mae'r NFU yn gweithio gyda ffermwyr er mwyn canfod datrysiad ymarferol, yn ôl Mr Jones.
Mae sampl ar algae eisoes wedi ei gasglu, ond dywedodd Huwel Manley, Rheolwr Gweithrediadau CNC, nad oedd hi'n glir "os mai'r llygredd oedd ar fai".
Ychwanegodd: "Mae tyfiant yr algae yn amlycach eleni oherwydd lefelau isel y dŵr."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd2 Ionawr 2018