Cymru 22-20 De Affrica

  • Cyhoeddwyd
Tomos WilliamsFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Fe sgoriodd Tomos Williams gais ar ei ymddangosiad cyntaf i Gymru

Ennill oedd hanes tîm Rygbi Cymru o drwch blewyn yn erbyn De Affrica yn Washington DC nos Sadwrn.

Roedd De Affrica wedi enwi saith chwaraewr yn yr 15 ddechreuodd y gêm oedd yn ennill eu capiau rhyngwladol cyntaf i'w gwlad.

Llwyddodd Cymru i fynd fewn ar yr hanner gyda mantais o 11 pwynt gyda Hallam Amos yn croesi am gais cynta'r gêm.

Munudau'n ddiweddarach llwyddodd y mewnwr Tomos Williams i sgorio ail gais Cymru, wrth iddo ddathlu ennill ei gap cyntaf i'w wlad.

Y sgôr ar yr hanner oedd 14-3 i Gymru.

Fe ddechreuodd De Affrica'r ail hanner yn fwy penderfynol ac fe sgoriodd nhw gais cynnar.

Camgymeriad gan Amos yn galluogi Travis Ismaiel i sgorio cais rhwydd i Dde Affrica.

Ychwanegodd Gareth Anscome i gyfanswm Cymru gyda chic gosb.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Roedd Cymru dan bwysau wrth i'r gêm ddirwyn i ben. Fe gafodd Owen Watkins gerdyn melyn am chwarae'r bêl yn fwriadol oddi ar y cae ac arbed De Affrica rhag sgorio cais clir yn y broses.

Gyda dyn o fantais croesodd Makazole Mapimpi yn y gornel a gyda chic gosb gan Du Preez, roedd De Affrica dri phwynt ar y blaen gyda munudau yn unig yn weddill.

Gyda Cymru yn pwyso am y fuddugoliaeth fe lwyddodd Tomos Williams i ddal ei afael ar gic gan Du Preez cyn i'r bêl ddisgyn yn garedig i Ryan Elias a groesodd i sicrhau'r fuddugoliaeth i Gymru.

Pwrpas y gêm?

Roedd llawer o feirniadaeth cyn yr achlysur ynglŷn â phwrpas y gêm o gwbl.

Roedd Cymru wedi teithio i America heb y rhan fwyaf o'i chwaraewyr cryfaf wrth i Dde Affrica hefyd adael nifer o'i chwaraewyr mwyaf profiadol gartref.

Disgrifiodd cyn gapten Cymru, Gwyn Jones y gêm yn "llanast" a'i fod yn "di brisio rygbi rhyngwladol."

Mae Warren Gatland wedi amddiffyn cymryd rhan y gêm gan ddweud ei fod yn rhan bwysig o baratoadau Cymru ar gyfer Cwpan y Byd yn Japan yn 2019.

Fydd Cymru yn teithio nawr i'r Arianin i chwarae mewn dwy gêm brawf ar dydd Sadwrn 9 Mehefin a 16 Mehefin.