Mwy o achosion o'r tafod glas ym Mhowys a pharth rheoli ym Mynwy

Defaid
Disgrifiad o’r llun,

Nid yw'r clefyd yn fygythiad i iechyd dynol neu iechyd bwyd, ond fe all gael effaith fawr ar dda byw

  • Cyhoeddwyd

Mae rhagor o achosion o glefyd y tafod glas wedi cael eu cadarnhau mewn da byw yng Nghymru.

Dywedodd Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion Llywodraeth y DU fod clefyd tafod glas math BTV-3 wedi ei ganfod ar ddau safle ym Mhowys - yn Llangamarch a Llanfair Llythynwg.

Cafodd achosion tafod glas eu canfod yng Nghymru am y tro cyntaf eleni ar ddau safle ym Mhowys a Sir Fynwy yr wythnos ddiwethaf.

Ym mis Mehefin, cafodd cyfyngiadau eu cyflwyno ar symud da byw dros y ffin o Loegr i Gymru ond fe gafodd rhai cyfyngiadau eu llacio ar 21 Medi.

Mae'r llywodraeth yn annog perchnogion da byw i "barhau i fod yn wyliadwrus a dilyn mesurau bioddiogelwch llym".

Nos Fercher fe wnaeth Prif Swyddog Milfeddygol Cymru gyhoeddi y bydd Parth Rheoli Dros Dro y Tafod Glas (TCZ) yn cael ei sefydlu o amgylch y fferm yn Sir Fynwy o ddydd Mercher 1 Hydref.

Dywedodd y Prif Swyddog Milfeddygol, Richard Irvine: "Rydym wedi sefydlu'r parth rheoli dros dro hwn i helpu i atal lledaeniad y Tafod Glas yng Nghymru.

"Mae hyn oherwydd bod gennym dystiolaeth glir o drosglwyddiad gweithredol o haint BTV-3 yn dilyn ymchwiliadau pellach ar y fferm yr effeithir arni ger Cas-gwent, Sir Fynwy."

Mae Cymdeithas y Sioe Frenhinol hefyd wedi cyhoeddi eu bod nhw'n argymell yn gryf y dylai ffermwyr frechu eu hanifeiliaid cyn dod i'r ffair aeaf ddiwedd Tachwedd.

Mae'r ddau achos diweddaraf yn golygu bod pedwar achos o glefyd y tafod glas wedi'u cadarnhau yng Nghymru hyd yma eleni.

Roedd dau achos yn 2024 mewn defaid yng Ngwynedd a Môn, a gafodd eu symud o ddwyrain Lloegr.

Mae'r clefyd yn cael ei wasgaru gan wybed (midges), ac nid yw'n fygythiad i iechyd dynol neu iechyd bwyd ond fe all gael effaith fawr ar dda byw.

Fe wnaeth y llywodraeth gyflwyno cyfyngiadau dadleuol ar symud da byw i Gymru o fis Gorffennaf, er mwyn rhoi amser i ffermwyr frechu eu hanifeiliaid.

Mae'r cyfyngiadau yma wedi cael eu llacio'n raddol, gyda defaid a gwartheg sydd wedi eu brechu yn cael yr hawl i symud yn fwy rhydd ers 21 Medi.

'Her fawr' i'r diwydiant amaeth

Yn y cyfamser mae'r Dirprwy Brif Weinidog a'r Ysgrifennydd Materion Gwledig wedi dweud wrth ASau bod clefyd y tafod glas yn "her fawr" i'r diwydiant amaeth yng Nghymru.

Wrth ymddangos o flaen Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig y Senedd, mae Huw Irranca-Davies wedi pledio ar ffermwyr i frechu eu hanifeiliaid.

Dywedodd prif filfeddyg Cymru, Richard Irvine, wrth y pwyllgor fod swyddogion iechyd anifeiliaid hefyd yn ymchwilio i ddau achos arall wedi'r achosion ym Mhowys.

Mae'r pedair fferm ble cafodd y clefyd ei gadarnhau bellach dan gyfyngiadau symud, gyda'r anifeiliaid yn cael eu difa, meddai.

Fe wnaeth Dr Irvine hefyd rybuddio am y cynnydd sylweddol mewn achosion yn Lloegr dros yr wythnosau diwethaf.

Mae bron i 230,000 o anifeiliaid fferm wedi cael eu brechu yng Nghymru hyd yn hyn, eglurodd - "cyfran fach o'r boblogaeth da byw".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig