Pencampwriaeth Rygbi dan 20: Seland Newydd 42-10 Cymru
- Cyhoeddwyd

Taine Basham yn sgorio unig gais Cymru
Methiant oedd ymdrech y Cymry dan 20 i drechu Seland Newydd yn Beziers er i'r Crysau Duon gael tair carden felen.
Fe sgoriodd Seland Newydd bump cais i gyd ac fe ychwanegodd troed gywir Harry Plummer 17 pwynt at y sgôr.
Un cais a gafodd y Cymry a hwnnw gan rif wyth Taine Basham.

Sgoriwyd gweddill o bwyntiau Cymru gan Cai Evans.
Roedd yna garden felen i Gymru hefyd wrth i Lewis Ellis-Jones droseddu yn ystod tacl.
Ddydd Iau bydd Cymru yn wynebu Japan yn Stade Aime-Giral yn Perpignan.