S4C: Mwy'n gadael na sy'n symud i Gaerfyrddin yn barhaol
- Cyhoeddwyd
Mae mwy o weithwyr S4C yn gadael eu swyddi na sydd wedi ymrwymo i symud i'r pencadlys newydd yng Nghaerfyrddin, gall BBC Cymru ddatgelu.
Bydd y darlledwr yn adleoli o Gaerdydd i ganolfan Yr Egin yn ddiweddarach eleni.
Yn ôl cadeirydd pwyllgor diwylliant y Cynulliad, Bethan Sayed, mae'r ffigyrau'n codi cwestiynau am strategaeth y sianel.
Dywedodd S4C ei bod yn "galonogol" bod cymaint o aelodau staff wedi ymrwymo i symud i Gaerfyrddin.
Hysbysebu swyddi
Cafodd 54 o swyddi eu hadnabod fel rhai fyddai'n symud o gartref presennol S4C yn Llanisien i'r adeilad newydd ar gampws Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
Yn ôl ffigyrau sydd wedi eu rhyddhau i raglen Post Cyntaf BBC Radio Cymru mae 34 aelod o staff wedi datgan bwriad i symud i'r Egin - naw yn barhaol, a 25 ar gyfnod arbrofol.
Mae 12 aelod o staff presennol wedi penderfynu peidio derbyn y cynnig i adleoli, ac mae nifer o'r swyddi eisoes wedi eu hysbysebu.
Bydd staff sy'n gweithio yng Nghaerdydd ar hyn o bryd yn cael hawlio costau teithio i Gaerfyrddin am hyd at 12 mis.
Bydd 70 o weithwyr yn parhau i gael eu cyflogi yng Nghaerdydd dros dro, ond y disgwyl ydy y bydd "canran sylweddol" yn trosglwyddo i gyflogaeth y BBC fel rhan o brosiect i gydleoli gweithgareddau technegol.
Y disgwyl ydy y bydd staff yn dechrau gweithio o'r Egin ym mis Medi eleni.
Dywedodd Ms Sayed ei bod yn credu bod S4C "efallai wedi methu yn y ffordd maen nhw wedi hysbysebu'r syniad o symud swyddi o Gaerdydd i rannau eraill o Gymru".
"Os mai'r strategaeth oedd symud y swyddi hynny i Gaerfyrddin, sut all hynny fod yn llwyddiant os dyw e ddim yn digwydd?" gofynnodd.
'Calonogol'
Dywedodd S4C ei bod yn "galonogol" bod cymaint o aelodau staff wedi ymrwymo i symud i Gaerfyrddin ar gyfnod arbrofol.
Ychwanegodd llefarydd bod 11 o swyddi eisoes wedi cael eu hysbysebu ar gyfer gweithio yn Yr Egin, a bod "y diddordeb yn y swyddi gan bobl yr ardal yn galonogol, gyda safon a nifer y ceisiadau roedd S4C yn ei ddisgwyl".
"Un o amcanion S4C trwy adleoli i Gaerfyrddin oedd cynnig swyddi o safon. Mae'n braf gweld yr amcan yma'n cael ei wireddu," meddai.
Mae S4C wedi dweud yn y gorffennol y bydd symud o Gaerdydd i Gaerfyrddin yn "gost niwtral".
Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant eu bod yn edrych ymlaen at groesawu'r sianel, ond mai "mater i S4C yw'r trafodaethau gyda'i staff o ran yr adleoli".
Ychwanegodd arweinydd Cyngor Sir Gâr, Emlyn Dole ei bod yn "fater i staff unigol os ydyn nhw eisiau symud i'n sir brydferth ni".
"Rydyn ni'n hynod gefnogol o'r datblygiad ac yn hyderus y bydd yn llwyddiant ysgubol," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr 2017
- Cyhoeddwyd9 Chwefror 2018