BBC Cymru ddim am symud i'r Egin?
- Cyhoeddwyd
Mae rhaglen Newyddion 9 ar ddeall na fydd BBC Cymru yn symud eu stiwdio yng Nghaerfyrddin i adeilad Yr Egin.
Yr Egin fydd pencadlys newydd S4C, ac mae disgwyl i'r ganolfan agor ym mis Medi eleni.
Mae BBC Cymru a Phrifysgol y Drindod Dewi Sant wedi dweud wrth Newyddion 9 fod y trafodaethau rhwng y ddau yn parhau.
Ym mis Rhagfyr dywedodd un o uwch-swyddogion Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ei fod yn gobeithio y bydd hyd at 60% o adeilad Yr Egin wedi ei lenwi pan fydd drysau'r ganolfan newydd yn agor.
Erbyn hyn mae ffenestri yn cael eu gosod yn yr adeilad ar gampws y brifysgol yng Nghaerfyrddin, ac fe fydd y gwaith adeiladu wedi'i gwblhau erbyn yr haf.
Mae S4C yn bwriadu adleoli rhwng 50 a 55 o swyddi i'r ganolfan newydd.
Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn gobeithio y bydd Yr Egin yn creu rhyw 100 o swyddi newydd yn y diwydiannau creadigol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr 2017
- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr 2017
- Cyhoeddwyd15 Medi 2017