Galwadau ffôn 'ddim yn gyfrifol' am wrthdrawiad M4

  • Cyhoeddwyd
Gwrthdrawiad M4Ffynhonnell y llun, Shelter Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Rebecca Evans mewn gwrthdrawiad ar yr M4 ym mis Tachwedd 2016

Mae gyrrwr a darodd yn erbyn car arall ar draffordd yr M4, gan ladd mam feichiog, wedi dweud wrth y rheithgor nad galwadau o'i ffôn symudol oedd yn gyfrifol am y gwrthdrawiad.

Roedd Rebecca Evans, 27 oed o Ben-y-bont ar Ogwr, wyth mis yn feichiog pan y buodd farw yn y gwrthdrawiad ar yr M4 ger Port Talbot yn 2016.

Ddydd Mercher, dywedodd Craig John Scott wrth Lys y Goron Abertawe ei fod wedi gwneud dwy alwad di-gyffwrdd o'i ffôn symudol cyn y gwrthdrawiad, ond nad hynny achosodd yr hyn ddigwyddodd.

Mae Mr Scott, sy'n 53 oed, yn gwadu cyhuddiad o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus, ond mae wedi pledio'n euog i achosi marwolaeth drwy yrru'n esgeulus.

Mae'r erlyniad yn dweud fod Mr Scott wedi methu â sylwi ar y car yr oedd Ms Evans, ei gŵr Alex, a'u mab Cian, 2, yn teithio ynddo, ac iddo'u taro ar gyflymder o 70mya.

Clywodd Llys y Goron Abertawe ei fod wedi gwneud dwy alwad o'i gar BMW tra'n teithio i Orsaf Bŵer Baglan ar 29 Tachwedd 2016.

Clywodd aelodau'r rheithgor fod yr ail alwad wedi para 58 eiliad, a bod Mr Scott wedi deialu'r rhif drwy ddefnyddio botymau ar lyw'r car, oedd wedi ei gysylltu â'i ffon drwy Bluetooth.

Dywedodd y diffynydd wrth y rheithgor: "Fe wnes i alwad i fy rheolwr, fe gefais i'r wybodaeth yr oeddwn i ei angen a doedd dim byd arall ar fy meddwl."

Pan ofynnodd bargyfreithiwr yr amddiffyniad, Craig Haines, iddo ai'r galwadau achosodd y gwrthdrawiad, atebodd Mr Scott: "Ddim o gwbl".

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Digwyddodd y gwrthdrawiad ar lôn orllewinol yr M4 ger cyffordd 38

Dywedodd y tad i dri o blant ei fod wedi edrych i'w chwith ac i fyny cyn y gwrthdrawad, wedi i wrthrych dynnu ei sylw.

Dywedodd nad oedd yn gwybod beth oedd e, ond y gallai fod yn adlewyrchiad.

Yna, dywedodd iddo weld cefn y car arian, a'i fod yn cofio meddwl: "Does gen i ddim amser i stopio."

Wrth gofio'r gwrthdrawiad, ychwanegodd: "Daeth y bagiau awyr allan... Roedd nerth yr ergyd yn anferthol."

Yn gynharach, clywodd y rheithgor dystiolaeth gan lygad-dystion a ddywedodd nad oedden nhw wedi gweld goleuadau brêc Mr Scott yn dod ymlaen, er ei fod yn mynnu ei fod wedi gwasgu'r brêc.

Cwestiynu cyflymder

Wrth gael ei groesholi gan yr erlynydd Catherine Richards, cydnabyddodd Mr Scott ei fod wedi mynd heibio i lori ar gyflymder o 63mya tua 630 metr cyn y ddamwain.

Gofynnwyd iddo hefyd a ddylai fod wedi gwybod y byddai tagfeydd ar y rhan honno o'r draffordd ar yr adeg yna o'r bore.

Clywodd y rheithgor fod y gwrthdrawiad wedi digwydd ychydig wedi cyffordd 38, lle mae'r M4 yn cyfyngu o dair lôn i ddwy.

Dywedodd Mr Scott ei fod yn teithio ar y ffordd honno'n aml, ac nad oedd wedi dod ar draws problemau na thagfeydd ar yr amser hynny o'r blaen.

Dywedodd hefyd nad oedd yn dal cwpanaid o goffi yr oedd wedi ei brynu ar y ffordd, nac yn ei yfed ar y pryd, oherwydd ei fod yn "rhy boeth".

Disgrifiad o’r llun,

Rhoddodd Mr Scott dystiolaeth i'r achos yn Llys y Goron Abertawe ddydd Mercher

Roedd rhifau ffôn cysylltiadau Mr Scott yn ymddangos ar banel blaen ei gar a dywedodd ei fod wedi sgrolio drwyddyn nhw er mwyn galw pobl.

Dywedodd wrth y llys nad oedd yn anghyfreithlon, ond cydnabyddodd nad oedd ei lygaid yn gwylio'r ffordd pan oedd yn edrych ar y panel.

Mae hefyd yn gwadu gwneud trydedd galwad drwy'r system ddi-gyffwrdd pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad.

Pan ofynnwyd iddo a oedd yn rhaid iddo wneud y galwadau, ac a oedden nhw'n rhai brys, atebodd "na" i'r ddau gwestiwn.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Cian wedi gwella o'i anafiadau a chafodd gyfarfod â'r Tywysog Charles ym mis Chwefror

Mae'r achos wedi clywed fod Ms Evans yn teithio yn sedd flaen y Peugeot 407 oedd yn cael ei yrru gan ei gŵr, Alex.

Roedden nhw ar eu ffordd i fynd a'u mab i dŷ ei fam-gu, cyn mynd ymlaen i weithio gydag elusen Shelter Cymru.

Clywodd y rheithgor fod eu car wedi arafu a dod i stop ar lôn orllewinol y ffordd cyn i'r gwrthdrawiad ddigwydd.

Cafodd Cian ei gludo mewn hofrennydd i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd. Cafodd waedlif ar ei ymennydd a'i benglog, a chafodd ei ddwy goes eu torri.

Cofnodwyd fod Ms Evans wedi marw tua 45 munud wedi'r gwrthdrawiad.

Mae'r achos yn parhau.