Galw ar ASau Llafur i herio'r arweinyddiaeth ar Brexit

  • Cyhoeddwyd
Alun Davies
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Alun Davies bod y bleidlais yn gyfle i amddiffyn "cymunedau bregus" Cymru

Mae Ysgrifennydd Llywodraeth Leol Cymru wedi awgrymu y dylai ASau Llafur fynd yn erbyn arweinyddiaeth y blaid a chefnogi ymdrech i gadw'r DU yn y farchnad sengl ar ôl Brexit.

Mae hynny'n golygu bod Alun Davies yn mynd yn groes i farn y Prif Weinidog Carwyn Jones, sy'n cefnogi cynnig gwahanol sydd wedi cael ei awgrymu gan fainc flaen Llafur.

Yr wythnos diwethaf fe wnaeth Mr Davies arwyddo llythyr agored yn galw am refferendwm i gael ei chynnal ar y cytundeb terfynol rhwng y DU a'r UE, er bod Mr Jones o'r farn nad oes angen pleidlais gyhoeddus arall.

Mae Mr Davies yn mynnu ei fod yn cefnogi safbwynt Llywodraeth Cymru ynglŷn â'r farchnad sengl.

Ddydd Mawrth a dydd Mercher yr wythnos nesaf bydd ASau yn cynnal dadl ar 15 diwygiad i Fesur Ymadael yr UE, gafodd eu cynnig gan Dŷ'r Arglwyddi.

'Llywodraeth bydredig'

Yn ymateb i neges Twitter gan AS Pontypridd, Owen Smith ddydd Iau, ysgrifennodd Mr Davies: "Mae hwn yn gyfle i drechu a newid y llywodraeth bydredig, da i ddim yma, ac amddiffyn ein cymunedau mwyaf bregus rhag agweddau gwaethaf Brexit."

Dywedodd Mr Davies hefyd ei fod yn cytuno ag erthygl yn y Guardian, oedd yn dweud bod mainc flaen Llafur yn colli "cyfle gwych".

Mae un o'r diwygiadau fydd yn cael eu trafod yr wythnos nesaf â'r nod o gadw'r DU yn y farchnad sengl trwy aros yn aelod o Ardal Economaidd Ewrop.

Y gred yw y gallai Llywodraeth y DU fod wedi cael eu trechu ar y mater pe na bai mainc flaen Llafur wedi cyflwyno eu hawgrym eu hunain yn galw am "fynediad llawn" i'r farchnad sengl.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Carwyn Jones ei fod yn cefnogi cynnig mainc flaen Llafur

Dywedodd Mr Jones bod y cynnig newydd "yn fwy hyblyg ac, yn allweddol, yn siarad am sicrhau ein bod yn cael mynediad llawn a di-rwystr i'r farchnad sengl".

"Rwy'n credu bod hynny'n rhoi'r hyblygrwydd i ni gael y math o gytundeb sy'n iawn i Brydain a iawn i Gymru," meddai.

'Cefnogi Llywodraeth Cymru'

Pan ofynnwyd iddo egluro ei safbwynt, dywedodd Mr Davies: "Rwyf o blaid polisi Llywodraeth Cymru yn y Papur Gwyn ar y farchnad sengl a'r undeb dollau.

"Ac rwy'n cefnogi pa bynnag ffordd o wneud hynny."

Mae Papur Gwyn Llywodraeth Cymru yn dweud bod mynediad llawn a di-rwystr i'r farchnad sengl yn "hanfodol i ddiddordebau Cymru a'r DU", gan alw ar Lywodraeth y DU i ystyried y mater fel eu "blaenoriaeth bennaf" yn y trafodaethau â'r UE.