Thomas yn ymestyn ei fantais yn y Criterium du Dauphine
- Cyhoeddwyd
![geraint thomas](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/B7C5/production/_101954074_geraintthomas.jpg)
Mae Geraint Thomas wedi ymestyn ei fantais yn y Criterium du Dauphine yn dilyn chweched cymal y ras ddydd Sadwrn.
Gydag ond diwrnod i fynd, mae gan y Cymro bellach fantais o funud a 29 eiliad ar flaen y ras, gan olygu y bydd yn gwisgo'r crys melyn unwaith eto ar y diwrnod olaf.
Adam Yates o dîm Mitchelton-Scott sydd yn ail yn y dosbarthiad cyffredinol, gyda Romain Bardet o AG2R yn drydydd, dros ddau funud y tu ôl i Thomas.
Daeth y gŵr o Gaerdydd yn ail yn y chweched cymal, gyda Pello Bilbao Lopez de Armentina o dîm Astana yn cipio'r fuddugoliaeth.
Bydd y cymal olaf ddydd Sul yn un mynyddig arall, ac yn ymestyn 136km rhwng Moutiers a Saint-Gervais Mont Blanc yn ne-ddwyrain Ffrainc.
Thomas sy'n arwain Team Sky yn y Criterium du Dauphine eleni yn absenoldeb yr arweinydd arferol, Chris Froome.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mehefin 2018