Taith yr Haf: Yr Ariannin 10-23 Cymru
- Cyhoeddwyd
Llwyddodd Cymru i sicrhau buddugoliaeth gyfforddus dros yr Ariannin nos Sadwrn yn y cyntaf o ddwy ornest yn erbyn y tîm o dde America.
Yn dilyn ciciau cosb i'r naill ochr fe ddaeth cais gyntaf y gêm i James Davies yn y gornel yn dilyn dwylo da gan Hallam Amos.
Ychwanegodd Cymru ail gais cyn yr egwyl wrth i Gareth Davies ganfod bwlch yn dilyn tafliad lein, cyn bwydo George North a orffennodd y symudiad.
Ciciodd Rhys Patchell 10 pwynt i sicrhau bod Cymru'n cadw mantais gadarn, ac roedd y maswr yn un o nifer wnaeth argraff yn y crys coch.
Fe wnaeth cais gysur hwyr gan Tomas Lezana roi rhywbeth i'r dorf gartref yn yr Estadio del Bicentenario yn San Juan ei ddathlu.
Ond bydd y perfformiad yn rhoi hyder i Gymru cyn yr ail brawf yn erbyn yr Ariannin yn Santa Fe ddydd Sadwrn nesaf.
Mae tîm Warren Gatland eisoes wedi trechu De Affrica o 22-20 yn Washington, UDA yng ngêm gyntaf eu taith haf.