Trosglwyddo rheolaeth Gŵyl Sŵn i Glwb Ifor Bach

  • Cyhoeddwyd
Clwb ifor bach

Mae Clwb Ifor Bach wedi cyhoeddi mai nhw fydd nawr yn gyfrifol am drefnu Gŵyl Sŵn yng Nghaerdydd.

Bydd yr ŵyl gerddoriaeth, sy'n cael ei chynnal yn nifer o leoliadau ar draws y brif ddinas, yn dychwelyd ym mis Hydref, ond y tro yma dan reolaeth newydd.

Daw'r newyddion wrth i'r ŵyl gyhoeddi'r artistiaid cyntaf fydd yn rhan ohoni eleni, sy'n cynnwys sêr fel Gwenno, Boy Azooga a Drenge.

Dywedodd prif weithredwr Clwb Ifor Bach, Guto Brychan mai dyma oedd y cam naturiol i'w gymryd er mwyn gallu "parhau i dyfu".

Cafodd Gŵyl Sŵn ei ffurfio gan y DJ Huw Stephens a John Rostron yn ôl yn 2007, a dyma oedd yr ŵyl gerddorol aml-leoliad gyntaf ym Mhrydain tu allan i Lundain.

Dros y degawd diwethaf mae nifer o fawrion wedi chwarae fel rhan o'r ŵyl gan gynnwys The Vaccines, Alt-J, Disclosure a Ben Howard.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Guto Brychan eu bod yn "edrych 'mlaen" i gymryd rheolaeth o'r ŵyl

Dywedodd Mr Rostron eu bod nhw wastad wedi rhagweld y bydden nhw'n symud yr ŵyl ymlaen i rywun o fewn y gymuned gerddorol yng Nghymru.

"Mae hi'n andros o gyffrous i allu camu i ffwrdd, a gwybod y bydd Sŵn yn parhau i ddatblygu dan reolaeth newydd," meddai.

"Heb os bydd hi'n rhyfedd mynychu'r ŵyl heb weithio ond dwi'n edrych ymlaen at weld gymaint o artistiaid a phosib".

'Cam amlwg'

Dywedodd Mr Brychan bod Clwb Ifor Bach wedi bod yn cynnal digwyddiadau mewn lleoliadau i ffwrdd o'r prif safle ar Stryd Womanby ers tro.

"Mae cynnig llwyfan i artistiaid newydd a datblygu ffyrdd newydd i'w meithrin nhw yn ganolog i'r hyn yr ydym ni'n ceisio ei wneud," meddai.

"Pan soniodd John [Rostron] am y posibilrwydd o gymryd rheolaeth o Sŵn, dyma oedd y cam amlwg i'w gymryd er mwyn i ni allu parhau i dyfu."

Bydd yr ŵyl, sydd bellach yn ei 12fed flwyddyn, yn cael ei chynnal rhwng 17-20 Hydref.