Pryder am wagio cynnwys toiledau ar draeth y Graig Ddu
- Cyhoeddwyd
Mae yna bryder bod perchnogion carafanau modur yn gwagio cynnwys eu toiledau yn y twyni tywod ar draeth y Graig Ddu ym Morfa Bychan ger Porthmadog.
Yn ôl cynghorydd lleol mae'r sefyllfa yn "hynod o ffiaidd".
Mae yna alwadau am gyflwyno is-ddeddf i wahardd carafanau modur rhag aros dros nos ar y traeth.
Mewn cyfarfod i drafod y sefyllfa nos Fawrth mae Cyngor Tref Porthmadog wedi cefnogi'r galwadau hynny.
'Ddim yn parchu'r toiledau'
Dywedodd cadeirydd y cyngor tref, y Cynghorydd Gwilym Jones bod pobl yn defnyddio'r toiledau cyhoeddus yn y ffordd anghywir, gan wagio carthion dynol o'u carafanau modur yn y toiled, sydd wedyn yn tagu'r toiledau ac yn achosi trafferthion i holl ddefnyddwyr y traeth.
"Tydyn nhw ddim yn parchu'r toiledau", meddai. "Maen nhw'n defnyddio'r twyni fel toiled. Mae'r peth yn hynod o ffiaidd. Mae 'na lot o bobl sy'n cerdded ar hyd y twyni, ac maen nhw'n gweld beth sydd wedi cael ei adael ar ôl."
Ar hyn o bryd, does yna ddim deddf sy'n atal pobl rhag dod â'u carafanau modur i'r traeth dros nos, ond oherwydd y problemau mae yna alwadau am fesurau cryfach.
Yn ôl y cynghorydd sir dros Borthmadog, Selwyn Griffiths, mae angen gweithredu ar frys, gyda degau o garafanau modur wedi bod ar y traeth dros nos yn ystod yr wythnosau diwethaf.
"Tydi'r is-ddeddfau presennol ddim yn helpu o gwbl. Dwi am ofyn i Gyngor Gwynedd i symud ymlaen rŵan a chael is-ddeddfau newydd yn eu lle i sortio'r broblem yma ryw ffordd neu'i gilydd.
"'Da ni ishio gweld pawb sy'n dod yma yn mwynhau eu hunain, yn cynnwys plant, a bod plant yn mynd i'r twyni i chwarae."
'Mesurau ychwanegol'
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd fod perchnogion carafanau modur yn anwybyddu staff y cyngor, sy'n gofyn iddyn nhw beidio ag aros ar y traeth dros nos.
Oherwydd hynny mae'r cyngor yn ystyried mesurau ychwanegol megis cynyddu'r tâl yn sylweddol i berchnogion cerbydau o'r fath allu defnyddio'r traeth.
Maen nhw hefyd yn ystyried diwygio'r is-ddeddfau i gynnwys gwahardd aros ar y traeth mewn cerbyd dros nos.