Pencampwriaeth Rygbi Dan-20 y Byd: Ariannin 39-15 Cymru
- Cyhoeddwyd
Colli oedd hanes tîm rygbi dan 20 Cymru o 15-39 yn erbyn yr Ariannin ym Mhencampwriaeth Rygbi Dan-20 y Byd.
Roedd rhaid disgwyl chwarter awr cyn pwyntiau agoriadol y gêm ar ôl i De La Vega Mendia gicio'n gywir wedi i Gymru gael eu cosbi yn y ryc.
Cymru wnaeth sgorio cais cyntaf y gêm ar ôl gwaith da gan Ryan Conbeer aeth heibio pum chwaraewr yr Ariannin cyn croesi.
Llwyddodd Cai Evans gyda'r gic i ymestyn mantais Cymru i 7-3.
Manuel Nogues sgoriodd cais nesaf y gêm ar ôl i Mateo Carreras gicio'r bêl i'w gyfeiriad Nogues. Fe fethodd De La Vega Mendia gyda'r gic.
Gyda'r hanner cyntaf yn dirwyn i ben, tro Cymru oedd hi i sgorio cais y tro hwn. Cic ar draws y cae gan Evans, a Baldwin oedd yno i wneud y sgôr yn 12-8 i Gymru.
Ond cyn yr egwyl fe gafodd yr Ariannin gais gosb gan y dyfarnwr yn dilyn troseddu gan Gymru ar y llinell 5m.
Crasfa
Daeth yr hanner cyntaf i ben gyda'r Ariannin dri phwynt ar y blaen.
Fe ddechreuodd yr ail hanner yn berffaith i'r Ariannin wrth iddyn nhw ymestyn eu mantais i 10 pwynt.
Wrth i Gymru bwyso i gau'r bwlch roedden nhw'n gwrthod cicio tuag at y pyst er mwyn ceisio rhedeg y bêl at y llinell gais, ond roedd eu hymdrechion yn ofer.
Fe sgoriodd Juan Ignacio Molina, a gyda De La Vega Mendia yn cicio'n gywir roedd yr Ariannin wedi sicrhau'r fuddugoliaeth gyda mwy o giciau cosb.
Pablo Avellaneda sgoriodd cais olaf y gêm i'r Ariannin.
Daeth y gêm i ben gyda chrasfa i Gymru o 15-39.
Bydd Cymru'n wynebu un ai Awstralia neu'r Eidal ddydd Sul i benderfynu pwy fydd yn gorffen yn seithfed yn y gystadleuaeth.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mehefin 2018