Amheuon am gefnogi Brexit gan dri o bedwar ASE Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae'r rhan fwyaf o wleidyddion Cymru yn Senedd Ewrop wedi codi amheuon ynghylch a fyddan nhw'n cefnogi'r cytundeb Brexit terfynol.
Dywedodd tri o'r pedwar Aelod o Senedd Ewrop (ASE) yng Nghymru ei fod yn dibynnu ar natur y cytundeb rhwng y DU a'r Undeb Ewropeaidd.
Dim ond yr aelod Ceidwadol Kay Swinburne sy'n dweud ei bod hi'n "hyderus" y bydd y cytundeb terfynol yn cael ei gefnogi gan fwyafrif yn y senedd yn Strasbwrg.
Daw ar ôl i Lywodraeth y DU sicrhau na fyddai'n rhaid iddyn nhw roi'r hawl i ASau gael y gair olaf ar yr hyn sy'n digwydd dros Brexit.
Dydd Mawrth, fe wnaeth gweinidogion yn San Steffan lwyddo i ennill pleidlais yn Nhŷ'r Cyffredin ar gymal allweddol o Fesur Ymadael yr UE.
Fel rhan o'r broses o negodi Brexit, mae swyddogion yn Llundain a Brwsel yn anelu at ddod i gytundeb yn yr hydref, er mwyn i aelodau'r UE a senedd y DU gadarnhau y penderfyniad cyn y diwrnod gadael ar 29 Mawrth 2019.
Bydd ASEau hefyd yn cael pleidlais, a dywedodd Derek Vaughan, ASE Llafur Cymru, bod "pobl yn anghofio" hynny.
"Fe fyddwn ni fel ASEau yn cael y bleidlais derfynol hon ac nid yw'r mwyafrif o aelodau Ewropeaidd yn credu fod y cytundeb yn agos at gael ei chwblhau.
"Os yw'n fargen dderbyniol, os yw Llywodraeth y DU yn dweud y dylem aros yn y farchnad sengl ac yn yr undeb tollau, mae'n debyg y byddwn yn pleidleisio am y fargen honno.
"Ond os yw'n wael neu os nad oes bargen wedi ei tharo o gwbl, dwi'n dychmygu na fyddai ASEau Llafur yn derbyn hynny. A bod yn onest, dwi'n amau y byddai'r Senedd gyfan yn derbyn hynny."
Mae ASE Plaid Cymru, Jill Evans, yn galw am ail refferendwm i'r cyhoedd, ond ychwanegodd y byddai'n pleidleisio "yn seiliedig ar yr hyn sydd orau i ddyfodol Cymru" pan fydd yn pleidleisio yn y senedd.
"I mi, yr unig opsiwn ydy i aros yn yr UE, ac fe fydden i bob amser yn pleidleisio felly, a byddwn bob amser yn ceisio perswadio pobl eraill mai dyna'r ffordd orau o weithredu.
Pan ofynnwyd a oedd hi'n credu y byddai Brexit mewn gwirionedd yn digwydd, atebodd: "Dwi ddim. Rwy'n credu bod llawer mwy i'w wneud."
Dywedodd cyn-arweinydd UKIP yng Nghymru, Nathan Gill ASE, mai'r "farn gyffredinol" ymhlith yr selodau yn Strasbwrg ydy nad yw Brexit mewn gwirionedd yn mynd i ddigwydd.
"Fe fyddwn yn gadael, ond y cwestiwn ydy, ym mha ffurf fyddwn wedi gwneud mewn gwirionedd?
"Os yw'n Brexit hanner a hanner, yna beth mae'r llywodraeth a'r hyn y mae San Steffan yn ei wneud, ydy rhoi grym i UKIP.
"Yn y bôn, maen nhw'n rhoi tocyn aur i ni i barhau i ymladd, ac yn anffodus dyna beth bydd yn rhaid i ni ei wneud."
'Ansicr iawn'
Ychwanegodd bod UKIP yn "ansicr iawn" am sut y byddan nhw'n pleidleisio ar y cytundeb.
"Efallai ei bod yn well ein bod ni'n pleidleisio yn ei erbyn ac yn mynd allan heb unrhyw fargen - mae cael hynny'n well na chael bargen wael.
"Rydym yn credu hynny'n gryf, ac os ydym yn gorfod pleidleisio dros hynny, fe wnawn ni."
Ond dywedodd y Ceidwadwr Kay Swinburne: "I fi, mae'n eithaf hawdd ar y sail y bydd fy llywodraeth wedi cael y fargen orau ac erbyn hynny bydd San Steffan eisoes wedi dweud eu dweud.
"Felly, rydw i yma i gefnogi'r hyn sy'n dod allan o'r Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd a'n proses ddemocrataidd yn ôl adref."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Mai 2018
- Cyhoeddwyd31 Mai 2018