Wardeniaid sbwriel yn digio perchennog Zip World

  • Cyhoeddwyd
zip world forestFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y bobl ddirwyon am daflu sbwriel ym maes parcio Zip World Fforest

Mae perchennog atyniad i dwristiaid ger Betws-y-Coed yn dweud ei fod yn ddig bod wardeniaid sbwriel y cyngor wedi dod ar ei dir a dirwyo ei gwsmeriaid.

Dywedodd Sean Taylor, perchennog Zip World Fforest, ei fod wedi rhoi talebau gwerth £75 i'r bobl sydd wedi cwyno fel ymddiheuriad, ac mae wedi bygwth gyrru'r wardeniaid oddi yno os byddan nhw'n dychwelyd.

Yn ôl cwmni Kingdom, sy'n gweithredu gwasanaeth sbwriel ar ran Cyngor Conwy, dydyn nhw ddim angen caniatâd i fynd ar dir preifat.

Mae Mr Taylor yn credu bod y wardeniaid wedi dod ar ei dir yn ystod wythnos hanner tymor ddiwedd mis Mai.

'Embaras mawr'

Dywedodd Mr Taylor wrth BBC Radio Wales: "Y cyntaf ges i wybod oedd pan wnaeth cwsmer e-bostio i ddweud eu bod wedi cael amser gwych yma, ond bod dirwy o £75 a gafodd wrth fynd i mewn i'r car wedi difetha'r diwrnod.

"Roedd hynny'n embaras mawr. Fe wnaethon ni gysylltu gyda Kingdom, oedd yn honni bod un o'n rheolwyr wedi rhoi caniatâd iddyn nhw fod ar y safle - sydd ddim yn wir.

"Mae pawb sy'n dod i'r safle yn gorfod arwyddo fel ein bod ni'n gwybod pwy sydd yma a'u bod yn ddiogel.

"Mae angen i'r cyngor fynd i'r afael â hyn - mae'n wirion bost bod wardeniaid yn gallu ymddwyn fel hyn.

"Does dim problem sbwriel gyda ni - fe fyddai'n ddrwg i'r busnes petawn yn gadael i sbwriel fynd allan o reolaeth."

'Dim llawer o gwynion'

Mae Kingdom wedi cael eu beirniadu yn y gorffennol am y modd y maen nhw'n gweithredu, ac wedi cael eu cyhuddo o godi ofn ar bobl.

Roedd y cwmni'n gweithredu ar ran holl gynghorau'r gogledd, ond mae Gwynedd ac Ynys Môn eisoes wedi dileu cytundebau gyda nhw, ac mae cynghorwyr Sir y Fflint wedi argymell cam tebyg.

Dywedodd llefarydd ar ran Kingdom nad oes angen caniatâd arnyn nhw i fynd ar dir preifat, a bod swyddogion y cwmni'n broffesiynol wrth wneud eu gwaith o ddydd i ddydd.

Ychwanegodd bod nifer y cwynion y mae'r cwmni'n eu derbyn yn fach iawn o'i gymharu â nifer y dirwyon maen nhw'n eu rhoi.