Cyhoeddi gemau'r Uwch Gynghrair i Gaerdydd
- Cyhoeddwyd
Bydd clwb pêl-droed Caerdydd yn dechrau eu hymgyrch yn Uwch Gynghrair Lloegr gyda thaith i Bournemouth ar benwythnos cynta'r tymor newydd.
Fe fydd eu gêm gyntaf yn Stadiwm Dinas Caerdydd y penwythnos canlynol pan fyddan nhw'n croesawu Newcastle.
Gan fod penwythnos y gemau cyntaf yn y tymor newydd yr un pryd a phenwythnos olaf Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, mae'n debyg bod awdurdodau'r Brifwyl yn falch nad yw'r Adar Gleision yn chwarae ar eu tomen eu hunain bryd hynny.
Bydd mis Medi yn brawf cynnar o obeithion tîm Neil Warnock yn y brif adran wrth iddyn nhw wynebu pump o'r saith tîm uchaf y tymor diwethaf yn syth ar ôl ei gilydd, sef Arsenal, Chelsea, Manchester City, Burnley a Spurs.
Fe fydd rhaid aros tan benwythnos ola'r tymor cyn i Gaerdydd deithio i Old Trafford i herio Manchester United, a hynny ar 12 Mai, 2019.
Y gemau yn llawn (gemau cartref yn dywyllach)*:
Bournemouth (11 Awst)
Newcastle United (18 Awst)
Huddersfield Town (25 Awst)
Arsenal (1 Medi)
Chelsea (15 Medi)
Manchester City (22 Medi)
Burnley (29 Medi)
Tottenham Hotspur (6 Hydref)
Fulham (20 Hydref)
Lerpwl (27 Hydref)
Leicester City (3 Tachwedd)
Brighton & Hove Albion (10 Tachwedd)
Everton (24 Tachwedd)
Wolverhampton Wanderers (1 Rhagfyr)
West Ham United (4 Rhagfyr)
Southampton (8 Rhagfyr)
Watford (15 Rhagfyr)
Manchester United (22 Rhagfyr)
Crystal Palace (26 Rhagfyr)
Leicester City (29 Rhagfyr)
Tottenham Hotspur (1 Ionawr)
Huddersfield Town (12 Ionawr)
Newcastle United (19 Ionawr)
Arsenal (29 Ionawr)
Bournemouth (2 Chwefror)
Southampton (9 Chwefror)
Watford (23 Chwefror)
Everton (26 Chwefror)
Wolverhampton Wanderers (2 Mawrth)
West Ham United (9 Mawrth)
Brighton & Hove Albion (16 Mawrth)
Chelsea (30 Mawrth)
Manchester City (6 Ebrill)
Burnley (13 Ebrill)
Lerpwl (20 Ebrill)
Fulham (27 Ebrill)
Crystal Palace (4 Mai)
Manchester United (12 Mai)
* = Gallai union ddyddiadau'r gemau newid oherwydd gofynion darlledu.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Mai 2018
- Cyhoeddwyd9 Mai 2018
- Cyhoeddwyd6 Mai 2018