Argymell cynllun trafnidiaeth hydrogen i Gymru
- Cyhoeddwyd
Fe all hydrogen fod yn hynod werthfawr er mwyn lleihau allyriadau carbon mewn trafnidiaeth yng Nghymru - dyna fydd neges adroddiad a fydd yn cael ei lansio ddydd Llun mewn cwmni cynhyrchu eco-geir yn Llandrindod.
Mae'r adroddiad, a luniwyd gan yr ymgynghorwyr ynni Ynni Glân, yn canolbwyntio ar y defnydd cyfredol o hydrogen yn sector trafnidiaeth Cymru yn ogystal â'r defnydd ohono yn sector trafnidiaeth y DU a ledled y byd.
Bydd ystyriaeth amlwg yn cael ei roi i ymarferoldeb a budd defnyddio hydrogen i redeg bysus, trenau a chludo nwyddau gan nodi o lle y gellid cael yr arian, a rôl Llywodraeth Cymru.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet cysgodol dros Ynni, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig Simon Thomas: "Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at y modd y gallai Cymru gymryd rôl strategol yn yr egin-economi hydrogen, ond dywed nad oes arweinyddiaeth yn bodoli yng Nghymru.
"Petawn i'n Ysgrifennydd Cabinet mewn Llywodraeth Cymru Plaid Cymru buan iawn y buaswn yn derbyn yr argymhelliad ynghylch estyn allan at y Cyngor Hydrogen," meddai.
"Buasem yn cyd-drefnu digwyddiad o bwys yng Nghymru fyddai'n cyfleu uchelgais cenedl y Cymry ar yr economi hydrogen i gynulleidfa fyd-eang.
"Gallai'r digwyddiad hwn hefyd ddathlu bywyd William Grove o Abertawe, a ddyfeisiodd y gell danwydd hydrogen ym 1842."
Ychwanegodd Simon Thomas: "Gallai Llywodraeth Cymru ddefnyddio'r cyfleoedd a roddir gan y fasnachfraint reilffyrdd newydd a'r Metros arfaethedig i gyflwyno trenau a bysus hydrogen yng Nghymru er mwyn sicrhau bod yr awyr a anadlwn yn ffres a heb fod yn llygru."
Dywedodd awdur yr adroddiad Guto Owen: "Cafwyd ymchwydd o ddiddordeb mewn hydrogen i ddatgarboneiddio nid yn unig drafnidiaeth ond hefyd y sectorau trydan, gwres ac amaethyddol, ac i wella ansawdd aer.
"Mae cyfuno dim allyriadau a'r gallu i storio ynni ar raddfa yn dymhorol, strategaethau a phrosiectau hydrogen yn cael eu hyrwyddo gan lywodraethau, cyfleustodau a datblygwyr technoleg ledled y byd.
"Mae gan Gymru, gyda'i hadnoddau naturiol helaeth, gyfle i ymuno â'r arloeswyr trwy symud hydrogen ymlaen yn gyflym er mwyn cael manteision amgylcheddol, iechyd ac economaidd."
Mae'r adroddiad hefyd yn annog Llywodraeth Cymru i roi arweiniad trwy ymuno â gwledydd a rhanbarthau eraill sy'n symud ymlaen gyda datgarboneiddio.
Cafodd yr ymchwil ei ariannu gan Gronfa Polisi, Ymchwil a Chyfathrebu'r Cynulliad.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Ionawr 2015
- Cyhoeddwyd19 Mehefin 2016