Cynnig cynllun rhannu-swydd ar gyfer ACau

  • Cyhoeddwyd
Sian Gwenllian
Disgrifiad o’r llun,

Siân Gwenllian: 'Dim gobaith' o fod yn AC yng Nghaerdydd wrth fagu plant ar ben ei hun.

Fe allai cynllun rhannu-swydd wneud y syniad o fod yn AC yn fwy deniadol yn ôl un o aelodau'r Cynulliad Cenedlaethol.

Dywedodd Siân Gwenllïan, AC Plaid Cymru Arfon, nad oedd yna "ru'n modd" y gallai wedi bod yn aelod cynulliad tra ei bod yn magu pedwar o blant a hithau'n weddw.

Fe wnaeth adroddiad diweddar awgrymu newid yn y ddeddf fel bod ymgeiswyr yn gallu sefyll ar y cyd,

Ond dywed Llywydd y Cynulliad, Elin Jones, o bosib nad oes gan y Cynulliad y pwerau i wneud y newidiadau angenrheidiol.

Cyfrifoldebau gofal

Dywedodd Ms Gwenllïan wrth raglen Sunday Supplement BBC Radio Wales na fyddai gobaith wedi bod iddi fod yn AC yng Nghaerdydd wrth fagu plant ar ben ei hun.

"Ro' nhw'n ifanc iawn pan fu farw fy ngŵr."

"Pe bai cynllun rhannu-swydd wedi bod yn opsiwn, dwi'n tybio y byddai wedi bod yn fwy deniadol oherwydd fe allwch rannu swydd gyda rhywun nad oedd â chyfrifoldebau gofal, a bydda nhw wedi gallu cymryd y rôl o fod yn y cynulliad am ran o'r wythnos, ac yna byddwn i wedi gallu gwneud y rôl yn yr etholaeth.

"Yna ar ôl ychydig o flynyddoedd, pan oedd y plant yn hyn, byddwn wedi gallu cyfnewid."

SeneddFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

A oes gan y Cynulliad y pŵer i wneud y newidiadau angenrheidiol?

Pan ofynnwyd a ddylai cynllun rhannu-swydd gael ei ystyried ar gyfer arweinyddiaeth Plaid Cymru dywedodd: "Pam nad ydym yn edrych ar hynny: Fe wnaeth dau aelod o'r Blaid Werdd wneud hynny, gan gynnig eu hunain fel AS oedd yn rhannu swydd.

"Yn anffodus fe ddyfarnwyd fod hynny yn anghyfreithlon. Nid ydym wedi gweld hyn yn digwydd ar lefel etholedig.

"Pam lai: Pam nad ydym yn cael arweinwyr ar y cyd."

Fe wnaeth adroddiad diweddar, oedd yn galw am greu hyd at 30 o aelodau cynulliad ychwanegol, hefyd awgrymu y dylid newid y ddeddf er mwyn caniatáu i ymgeiswyr sefyll ar y cyd.

Ddydd Mercher dywedodd Ms Gwenllïan wrth y Senedd y byddai cynllun rhannu swydd "yn ffordd dda o ddenu merched gyda phlant i'r rôl."

Cyngor cyfreithiol

Cyn hir fe fydd Comisiwn y Cynulliad yn dechrau ar y broses o benderfynu pa rannau o'r adroddiad ar ddiwygio'r drefn etholiadol y dylid eu gweithredu.

Dywedodd Elin Jones, Llywydd y Cynulliad, wrth ACau fod cyngor cyfreithiol wedi bwrw amheuaeth ar allu'r cynulliad i gyflwyno polisi o'r fath "yn enwedig pe bai aelodau eisiau i aelod sy'n rhannu swydd i fod yn weinidog neu yn ysgrifennydd yn y cabinet."

"Mae cwestiynau hefyd a fyddai creu deddf caniatáu cynllun rhannu swydd o reidrwydd yn arwain i bleidiau gwleidyddol yn enwebu ymgeiswyr o'r fath, " meddai.

"Ond nid yw hyn yn esgus am beidio gweithredu, ddim yn rheswm i anwybyddu'r syniad yn gyfan gwbl."

Sunday Supplement, 0800 dydd Sul 17 Mehefin BBC Radio Wales