Pryder am ddylanwad y dde eithafol ar ymddygiad disgyblion

Bachgen ar ffonFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Daw dylanwad y dde eithafol yn bennaf trwy'r cyfryngau cymdeithasol ac apiau negeseuon, yn ôl yr NASUWT

  • Cyhoeddwyd

Mae dylanwad yr adain dde eithafol a mudiadau poblyddol yn cael effaith negyddol ar ymddygiad disgyblion, medd undeb athrawon yr NASUWT.

Yn eu cynhadledd flynyddol yn Lerpwl y penwythnos yma, mae'r undeb yn galw am ragor o weithredu i atal plant a phobol ifanc rhag cael eu recriwtio gan fudiadau adain dde eithafol.

Daw'r dylanwad yn bennaf trwy'r cyfryngau cymdeithasol, apiau negeseuon, a phlatfformau gemau digidol, yn ôl yr undeb.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn "hollbwysig ein bod yn cefnogi ein plant a'n pobl ifanc i gadw'n ddiogel ar-lein a'n bod yn helpu athrawon i ymateb i'r materion hyn sy'n newid yn gyflym".

Yn ôl arolwg o'u haelodau gan yr NASUWT, mae athrawon yn credu mai'r cyfryngau cymdeithasol sy'n bennaf gyfrifol am ymddygiad negyddol disgyblion.

Mae'r arolwg yn awgrymu bod athrawon benywaidd ddwywaith yn fwy tebygol i dderbyn sarhad geiriol na rhai gwrywaidd.

Dywedodd 27% o athrawon benywaidd eu bod yn cael eu sarhau sawl gwaith yr wythnos, a dywedodd 14% bod hynny'n digwydd yn ddyddiol.

Mae'r arolwg hefyd yn awgrymu bod athrawon o gefndiroedd du, Caribïaidd neu Affricanaidd hefyd bron ddwywaith yn fwy tebygol o wynebu camdriniaeth gorfforol gan ddisgyblion.

Andrew TateFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Andrew Tate ei enwi fel esiampl negyddol ar ddisgyblion gan sawl un yn arolwg yr NASUWT

Dywedodd swyddog achos a pholisi yr undeb yng Nghymru, Sion Amlyn fod ymddygiad o'r fath yn dod yn fwyfwy pryderus i'w haelodau.

"Mae'n aelodau'n adrodd i ni bod 'na gynnydd wedi bod ymhlith disgyblion ysgol uwchradd mewn agweddau adain dde," meddai ar raglen Dros Frecwast.

"Mae 'na lot o ddyfynnu pobl fel [y dalanwadwr dadleuol] Andrew Tate. Mae 'na gynnydd mewn defnyddio swasticas wrth dŵdlo. Mae 'na gynnydd yn y defnydd o'r 'n-word'.

"Ynglŷn â phobl fel Andrew Tate, mae'n amlwg o'r trafodaethau ma'n aelodau ni'n cael efo'r plant, bo' nhw'n ymwybodol o'r bobl 'ma, ond hefyd bron yn amddiffynnol o'u safbwyntiau nhw.

"Mae'n her trio darbwyllo nhw am y math yma o bobl a'r math yma o ymddygiad adain dde."

'Efelychu'r math yma o ymddygiad'

Dywedodd fod angen gweithredu gan lywodraethau yn erbyn cwmnïau cyfryngau cymdeithasol er mwyn ceisio "sicrhau bod eu cynnwys nhw ddim o'r math yma".

Ychwanegodd fod ysgolion yn gwneud gwaith da o ran ceisio addysgu disgyblion am foesau, ond bod angen "mireinio'r gefnogaeth sydd yno'n lleol i ysgolion".

"Ma' be' sy'n cael ei weld mewn ysgolion yn cydfynd efo be' ma' oedolion yn weld ar y cyfryngau cymdeithasol o ran yr adain dde.

"Mae'n ddigon pryderus pan mae oedolion yn cael eu dylanwadu gan yr adain dde. Mae o'n llawer mwy pryderus pan mae pobl ifanc - sy'n cael eu dylanwadu'n hawdd - yn cael eu gweld yn lapio fyny'r safbwyntiau yma.

"Nid yn unig mae plant yn gweld hynny, mae'n aelodau ni'n adrodd bod yr ymddygiadau hyn yn cael eu mabwysiadu gan y plant, a bo' nhw wedyn yn efelychu y math yma o ymddygiad - bod yn sarhaus i staff benywaidd, bod yn sarhaus yn hiliol i staff."

'Helpu athrawon i ymateb'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'n hollbwysig ein bod yn cefnogi ein plant a'n pobl ifanc i gadw'n ddiogel ar-lein a'n bod yn helpu athrawon i ymateb i'r materion hyn sy'n newid yn gyflym.

"Mae Cymru wedi arwain y ffordd yn y DU drwy ddeddfu fel bod pob disgybl yn cael mynediad i Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb (ACRh) gorfodol sy'n cynnwys gwersi ar gadw'n ddiogel ar-lein, datblygu parch at eraill ac adnabod arwyddion ymddygiadau afiach a dylanwadau niweidiol.

"Mae hefyd yn helpu plant i godi materion neu bryderon gydag oedolion y gallant ymddiried ynddynt.

"Rydym am gryfhau ein cefnogaeth o amgylch ACRh a pharhau i weithio gydag ysgolion i ddeall yr hyn sydd ei angen arnynt."