Adroddiad yn beirniadu cynlluniau tywydd garw cwmnïau dŵr

  • Cyhoeddwyd
Ciw dwrFfynhonnell y llun, Vivian Williams
Disgrifiad o’r llun,

Roedd tua 200 o bobl wedi ciwio am ddŵr ym Mlaenau Ffestiniog yn ystod y storm

Mae'r rheoleiddiwr Ofwat wedi rhyddhau adroddiad sy'n amlinellu effaith tywydd garw ddechrau'r flwyddyn ar gyflenwadau dŵr i gwsmeriaid yng Nghymru a Lloegr.

Roedd dros 200,000 o gwsmeriaid heb ddŵr am fwy na phedair awr, gyda degau o filoedd heb unrhyw gyflenwad am ddyddiau ddiwedd mis Chwefror a dechrau Mawrth.

Roedd dros 20,000 o'r rheiny yn gwsmeriaid Dŵr Cymru. Dywed y cwmni eu bod yn dadansoddi casgliadau'r rheoleiddiwr ac yn ystyried sut i "ymateb orau i'r materion a godwyd".

Yn ôl prif weithredwr Ofwat, Rachel Fletcher roedd "gormod o gwmnïau wedi'u dal ar y droed ôl ac wedi gadael pobl i lawr, gan achosi caledi" a bod "dim esgus" am y methiannau.

Dibynnu ar wirfoddolwyr

Mae'r adroddiad yn edrych ar ymateb yr 17 cwmni dŵr yng Nghymru a Lloegr cyn, yn ystod ac ar ôl y tywydd garw.

Ac mae gwaith ymchwil Cyngor Defnyddwyr Cymru'n dangos fod bron i dri chwarter y cwsmeriaid a gafodd eu heffeithio heb dderbyn cyflenwad arall o ddŵr.

Mewn rhai achosion roedd y cwsmer yn gorfod delio â'r sefyllfa ei hun drwy ddibynnu ar wirfoddolwyr a chyrff cyhoeddus lleol.

Ffynhonnell y llun, Nick Elder
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y lori yma'n cyflenwi poteli dŵr i Ffostrasol

Mae'r methiannau mwyaf cyffredin gan yr holl gwmnïau yn cynnwys:

  • Cynllunio a gwaith paratoi gwael,

  • Diffyg cynllunio o ran ymateb brys,

  • Diffyg cydweithio rhwng cwmnïau i rannu adnoddau fel cyflenwyr poteli dŵr,

  • Data gwallus o ran ble roedd y problemau'n digwydd ac os oedden nhw wedi'i datrys,

  • Cyfathrebu gwael gyda chwsmeriaid

Mae'r cwmnïau dŵr wedi talu cyfanswm o £7m i gwsmeriaid mewn iawndal, ond mae adolygiad Ofwat yn dweud nad yw'r pecyn iawndal yn adlewyrchu effaith y diffyg cyflenwad dŵr ar gwsmeriaid.

O ganlyniad bydd Ofwat yn gweithio gyda Llywodraethau Cymru a'r DU i ystyried newidiadau i'r rheolau iawndal, ac yn ymgynghori ar y mater cyn diwedd y mis.

Ychwanegodd Ms Fletcher: "Roedd rhagolygon yn awgrymu byddai'r tywydd garw'n dod - doedd o heb gyrraedd yn annisgwyl.

"Fe wnaeth nifer o gwmnïau dŵr ddangos beth allai gael ei wneud i wasanaethu eu cwsmeriaid pan maen nhw'n wynebu tywydd oer.

Ffynhonnell y llun, Carwyn Jones
Disgrifiad o’r llun,

Roedd dŵr yn cael ei ddarparu mewn poteli gan Dŵr Cymru mewn rhai ardaloedd oedd wedi eu heffeithio

"Ond roedd gormod o gwmnïau wedi'u dal ar y droed ôl ac wedi gadael pobl i lawr, gan achosi caledi o ganlyniad. Mae'r adroddiad yn dangos nad oes esgus am y math yma o fethiant.

"Rydym yn disgwyl i gwmnïau dŵr gymryd camau yn dilyn rhyddhau'r adolygiad yma."

'Ymddiheuro'

Dywedodd llefarydd ar ran Dŵr Cymru: "Rydym yn dadansoddi canfyddiadau'r adroddiadau a gyhoeddwyd heddiw ac rydym yn ystyried sut y gallwn ymateb orau i'r materion a godwyd i wella ymhellach yn y dyfodol.

"Mae arolwg annibynnol yn dangos fod 70% o'r cwsmeriaid a gafodd eu heffeithio yn fodlon gydag ein hymateb, a 10% yn anfodlon.

"Hoffwn ymddiheuro eto i bob cwsmer a gafodd amhariad ar eu cyflenwadau dŵr, a rhoi sicrwydd iddyn nhw y byddwn yn gweithio gyda chymunedau lleol, y rheoleiddwyr a'r diwydiant dŵr ehangach i ddysgu gwersi fel ein bod wedi paratoi'n well ar gyfer digwyddiadau tebyg yn y dyfodol."