Hamilton i geisio bod yn arweinydd eto

  • Cyhoeddwyd
Neil Hamilton

Mae cyn arweinydd grŵp UKIP yn y Cynulliad, Neil Hamilton wedi cadarnhau y bydd yn ceisio dod yn arweinydd eto.

Cafodd ACau wybod am y bleidlais mewn cyfarfod ddydd Llun.

Bydd yr ornest i ddewis yr arweinydd yn cael ei chynnal ym mis Gorffennaf.

Mae Mr Hamilton yn dweud mai ef yw'r unig aelod o'r grŵp o bump fydd yn gallu herio'r Prif Weinidog, Carwyn Jones.

Y disgwyl yw y bydd Caroline Jones, wnaeth ddisodli Mr Hamilton gyda chefnogaeth dau AC arall fis yn ôl hefyd yn rhoi ei henw ymlaen i fod yn y ras.

'Profiad'

Dywedodd Mr Hamilton: "Mae gen i 40 mlynedd o brofiad yn y byd gwleidyddol. Fi yw'r unig aelod o UKIP sydd wedi bod yn weinidog mewn llywodraeth.

"Mae gen i ystod o brofiad a gwybodaeth dwi eisiau defnyddio er budd UKIP a Chymru yn y pen draw."

Daeth y cyhoeddiad am y bleidlais ar yr un diwrnod ac y cafodd Mandy Jones ei gwahardd o UKIP am feirniadu enwebiad Mr Hamilton i Gomisiwn y Cynulliad.

Yn dilyn y feirniadaeth, fe gollodd UKIP y bleidlais a ddilynodd, ac ni chafodd Mr Hamilton fod ar y Comisiwn.

Galwodd ef i Ms Jones gael ei diarddel o'r blaid "am anffyddlondeb dybryd".

Nid yw Ms Jones yn rhan o grŵp UKIP yn y Cynulliad - cafodd ei hatal rhag bod yn rhan ohono'n gynharach eleni - ond mae hi'n aelod o'r blaid.