Cerddwr wedi marw ar ôl gwrthdrawiad Brynmawr
- Cyhoeddwyd

Mae cerddwr wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad gyda cherbyd ym Mrynmawr, Blaenau Gwent.
Cafodd dyn 29 oed o Frynmawr ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus ac mae'n parhau i gael ei holi yn y ddalfa.
Digwyddodd y gwrthdrawiad am 14:30 ddydd Sul ar Sgwâr y Farchnad.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gwent: "Yn drist iawn bu farw'r cerddwr o'i anafiadau ac mae swyddogion arbenigol yn rhoi cymorth i'r teulu yn ystod y cyfnod anodd yma."
Mae Heddlu Gwent yn parhau i ymchwilio gan ofyn i unrhyw un a welodd neu sydd â lluniau fideo o'r digwyddiad i gysylltu â nhw ar 101 neu'n ddienw ar 0800 555111.