Adroddiad trafnidiaeth: Angen newidiadau 'radical'

  • Cyhoeddwyd
ansawdd aerFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Cymru mewn peryg o fethu â chyrraedd ei thargedau allyriadau carbon o ganlyniad i orddibyniaeth ar geir, yn ôl adroddiad.

Y Sefydliad Materion Cymreig (SMC) sy'n gyfrifol am yr adroddiad sydd yn datgan fod Cymru yn fwy dibynnol ar geir nac unrhyw wlad arall o fewn y DU.

Mae gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus hefyd yn cael eu beirniadu gan yr adroddiad - Decarbonising Transport in Wales.

Yn ôl Shea Buckland-Jones o'r SMC mae angen newidiadau "radical" i'r ffordd y caiff trafnidiaeth ei ddarparu a'i ddefnyddio yng Nghymru.

'Angen newid'

Dywedodd yr SMC fod yna "angen clir" ar gyfer newidiadau i drafnidiaeth yng Nghymru.

Roedd beirniadaeth yr adroddiad o wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus Cymru yn amlwg, gan nodi fod gwasanaethau bws yng Nghymru mewn "dirywiad difrifol hir dymor".

Tra bod nifer y teithwyr ar wasanaethau trên yn cynyddu, mae'r cyfanswm dal dros bum gwaith yn llai na'r ffigwr sydd yn defnyddio bysiau.

Yn ôl yr adroddiad mae lefelau cerdded a beicio hefyd yn lleihau ar y cyfan, er gwaethaf Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013.

Yn ogystal â nodi beirniadaethau, mae hefyd yn argymell camau gweithredu posib i helpu mynd i'r afael â'r "her" sy'n wynebu Cymru.

Rhai o argymhellion yr adroddiad:

  • Penodi gweinidog ar gyfer trafnidiaeth;

  • Cyfyngiadau cyflymder o 20mya mewn ardaloedd trefol;

  • Cyflymu datblygiad awdurdodau trafnidiaeth ranbarthol;

  • Cynllun datgarboneiddio trafnidiaeth yn benodol ar gyfer Cymru;

  • Gwneud newidiadau i reolau cynllunio i sicrhau fod trafnidiaeth gynaliadwy yn ofyniad sylfaenol ar gyfer datblygiadau newydd;

  • Integreiddio'r gwasanaeth bws i mewn i rwydwaith Metro De Cymru.

Dywedodd Ms Buckland Jones: "Mae Llywodraeth Cymru am fod yn ganolog wrth gyflawni'r newidiadau sydd eu hangen ac mae'n rhaid iddyn nhw ddangos arweinyddiaeth wrth drawsnewid sector drafnidiaeth Cymru."

Yn ôl Chris Roberts, awdur yr adroddiad mae'r gwaith ymchwil yma yn dangos "pam a sut" y mae'n rhaid i drafnidiaeth yng Nghymru newid.

"Mae gan y sector drafnidiaeth botensial wirioneddol i fynd i'r afael ag amcanion y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, yn ogystal â delio a rhai pryderon am iechyd, yr economi, newid hinsawdd a chydraddoldeb."

Bydd darganfyddiadau'r adroddiad yn cael eu trafod ar y cyd gydag unigolion o Lywodraeth Cymru a'r sector drafnidiaeth mewn cyfarfod ddydd Mawrth.