O’r Wladfa i Gymru: Stori unigryw gweinidog newydd Sir Gâr
- Cyhoeddwyd
Mae Isaías E Grandis yn ddyn unigryw. Mae'n dod o'r Ariannin, mae'n siarad Cymraeg yn rhugl, ond does ganddo ddim cefndir Cymreig. Fe enillodd wobr Dysgwr y Flwyddyn yn Eisteddfod 2012, a'r penwythnos yma mi fydd yn dechrau ar bennod bwysig yn ei fywyd.
Am ddegawdau, bu Cymru'n anfon gweinidogion i Batagonia i genhadu. Ond, yn achos Isaías, mae'r rhod wedi troi. Y penwythnos hwn, mi fydd y gŵr o Górdoba yn cael ei ordeinio yn weinidog mewn tri chapel Bedyddwyr yn Sir Gâr - Adulam Felinfoel, Salem Llangennech a Seion Llanelli.
Bu Isaías, sy'n 35 oed, yn siarad gyda Cymru Fyw am ei gefndir, ei obeithion, ei deimladau am y capeli, ac yn trafod yr amgylchiadau unigryw arweiniodd at y foment bwysig yma yn ei fywyd.
Ble ges di dy fagu?
Dwi'n dod o dalaith Córdoba yng nghanolbarth yr Ariannin. Symudodd fy nheulu i Batagonia pan oeddwn i'n bedair oed, felly ges i fy magu yn Nhrevelin yn yr Andes.
Sut wnes di ddysgu Cymraeg felly?
Pan wnaethon ni symud fel teulu i Drevelin aeth fy nhad i weithio ar fferm teulu Cymraeg yno. Yn 1998 mi wnaeth un o'r teulu fy ngwahodd i ddysgu Cymraeg mewn dosbarthiadau nos pan o'n i'n 15 oed, ddwywaith yr wythnos gyda Hazel Charles Evans (athrawes gyntaf Ysgol Gymraeg yr Andes).
Wedyn, ar ôl astudio diwinyddiaeth yn Buenos Aires ges i ysgoloriaeth i ddod i Lambed i wneud cwrs haf. Ar ôl hynny, nes i ddechrau siarad Cymraeg.
Sut wnes ti gyfarfod dy wraig, Eluned?
Mae Eluned yn dod o Landdarog, Caerfyrddin ac roedden ni wedi cwrdd ym Mhatagonia yn 2010, pan aeth Eluned i weithio fel athrawes Gymraeg. Felly nes i gwrdd â hi yn Ysgol Gymraeg yr Andes (lle ro'n i'n gweithio fel tiwtor), ac mi wnaeth Eluned fy enwebu ar gyfer cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn... cyn i ni ddod yn gariadon!
Pan ddes i i Gymru i gystadlu am wobr Dysgwr y Flwyddyn yn Eisteddfod 2012, fe wnaethon ni syrthio mewn cariad.
Wnaethon ni briodi yng Nghapel Bethel, Cwm Hyfryd, yn 2014. Mae gennym ddau o blant rwan - Llewelyn Owen a Joseff Lewis, y ddau wedi eu geni yn Esquel yn yr Andes.
Sut wyt ti'n teimlo am sefyllfa'r iaith Gymraeg ym Mhatagonia heddiw?
Roeddwn i'n poeni yn y gorffennol, achos dim ond ysgolion allgyrsiol oedd ar gael yn Gymraeg. Ond erbyn hyn rydym wedi agor ysgol swyddogol yn yr Andes - Ysgol y Cwm - felly mae gen i lawer o obaith. Mae plant yn mynd yno ac yn astudio popeth drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Sbaeneg, felly mi fyddan nhw'n gorffen yr ysgol yn rhugl yn y Gymraeg.
'Da ni wedi gweld yr un peth yn Nhrelew - mae Ysgol yr Hendre wedi gwneud gwahaniaeth mawr. Mae plant yn gorffen yr ysgol yn siarad Cymraeg yn rhugl - plant o dras Cymreig, plant o dras brodorol, neu o deuluoedd Sbaenaidd neu Eidalaidd - mae'n anhygoel! Mae Ysgol y Gaiman yr un peth.
Felly, oes mae gen i obaith.
Beth yw iaith eich cartref?
Mae Eluned yn siarad Sbaeneg hefyd felly rydyn ni'n siarad Cymraeg a Sbaeneg drwy'r amser. Ond mae rheol - 'da ni wedi penderfynu fy mod i'n siarad Sbaeneg â'r plant, ac mae Eluned yn siarad Cymraeg, er mwyn i'r plant fod yn ddwyieithog. Ond Cymraeg fydd eu mamiaith.
Beth yw sefyllfa crefydd ym Mhatagonia heddiw?
Mae'r hen gapeli Cymreig ym Mhatagonia erbyn hyn yn ddwyieithog (Sbaeneg a Chymraeg) neu'n uniaith Sbaeneg. Mae'r capeli wedi dioddef ac yn mynd drwy'r un sefyllfa â chapeli yng Nghymru.
Roedd y ffydd yn bwysig, oedd, ond roedd y capel hefyd yn lle i fynd i gymdeithasu ac i gynnal pwyllgorau. Adeg hynny, roedd teuluoedd yn fawr â llawer o blant, ac yn llenwi'r capel. Mae'r gynulleidfa wedi mynd yn llai ac yn llai, fel fan hyn yn y capeli yng Nghymru. Ond, mae rhai pobl yn mynd, ac mae 'na ffyddloniaid yna.
Dwi'n gweld o'n bwysig bod gweinidogion yn pregethu'r Beibl - dyna sy'n bwysig i mi. Pwrpas yr adeilad yw i addoli Duw, felly os ydan ni'n anghofio'r pwrpas hwnnw, mae'r adeilad yn colli pwrpas. A dyna pam fod rhai capeli yn gwacáu - os ydan ni'n anghofio'r pwrpas, dydy'r capel ddim yn bwysig wedyn.
Pam wnes di benderfynu dod i Gymru i fyw?
Pan oeddwn i yn y coleg diwinyddol yn Buenos Aires ces i alwad i wasanaethu yn y cymunedau Cymraeg ym Mhatagonia ac yng Nghymru. Mae Duw yn ein galw ni i weithio mewn cymdeithas - mae rhai yn cael galwad i weithio yn y byd Saesneg neu Sbaeneg, mae rhai yn mynd fel cenhadon - a ges i'r alwad i wasanaethu'r Arglwydd yn y byd Cymraeg.
Fedri di egluro mwy am hynny, beth ddigwyddodd?
Ges i freuddwyd, ac roedd yn freuddwyd glir iawn - ac roedd arwyddion eraill oedd yn gwneud i mi ddeall yr alwad yna. Wedyn, drwy siarad efo pobl fel gweinidogion fy mam-eglwys, a chael cyngor, roeddwn i'n deall bod Duw eisiau defnyddio fi yn y maes Cymraeg.
Oes 'na her yn wynebu capeli yng Nghymru ar hyn o bryd?
Oes, a dyna pam ein bod ni yma - achos ein bod ni'n teimlo ein bod ni eisiau gwneud gwaith yma. Aeth llawer o genhadon i Batagonia, a daeth fy mam yn Gristion drwy genhadwr o Gymru, felly gallwch chi fy nghyfri i yn un o blant gwaith cenhadon Cymru.
Efallai o ddiddordeb: