Ceidwadwyr: 'Gallai Paul Davies weithio â Phlaid Cymru'
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-Ysgrifennydd Cymru wedi dweud y gallai clymblaid rhwng y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru fod fwy tebygol yn y dyfodol os yw arweinydd dros dro'r blaid yn aros yn y swydd.
Ddydd Mercher, cafodd Paul Davies ei gadarnhau fel arweinydd dros dro grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn y Cynulliad, yn dilyn ymddiswyddiad Andrew RT Davies.
Mae arweinydd presennol Plaid Cymru, Leanne Wood, wedi dweud yn y gorffennol na fyddai hi'n ystyried clymbleidio gyda'r Torïaid.
Ond yn ôl Stephen Crabb, AS Ceidwadol Preseli Penfro, mae ffigyrau amlwg eraill o fewn Plaid wedi dweud wrtho nad yw'r posibiliad o gydweithio wedi ei ddiystyru.
'Cymro i'r carn'
Wrth gymryd yr awenau fel arweinydd dros dro, dywedodd Paul Davies, oedd yn ddirprwy i Andrew RT Davies gynt, fod y cyn-arweinydd wedi gwneud "cyfraniad sylweddol i wleidyddiaeth Cymru".
"Rwy'n edrych ymlaen at barhau i weithio gydag e yn y dyfodol," meddai.
Dywedodd Mr Crabb fodd bynnag y byddai Paul Davies, sy'n cynrychioli'i etholaeth ef yn y Cynulliad, yn barod i gymryd yr arweinyddiaeth yn syth.
"Mae'n gwybod beth mae e eisiau ei wneud. Mae ganddo syniadau ac egwyddorion cryf iawn, iawn, yn enwedig yn ymwneud â gwasanaethau cyhoeddus Cymru," meddai.
"Y peth arall am Paul yw bod ganddo'r sgiliau cynnil yna sy'n golygu'i fod e'n gallu gweithio gyda phleidiau eraill, ac os oes angen un peth ar Gymru nawr yn fwy na dim, dewis arall yw hynny i flwyddyn ar ôl blwyddyn o lywodraeth Lafur.
"Yr unig ffordd 'dych chi am gael hynny yw i'r gwrthbleidiau gydweithio gyda'i gilydd yn y Cynulliad."
Ychwanegodd: "Mae Paul yn Gymro i'r carn, yn siaradwr Cymraeg iaith gyntaf. Mae ganddo ddealltwriaeth o deimladau pobl gyffredin ar y stryd am wahanol bynciau.
"Mae'n gallu bod yn galed, mae'n gallu bod yr un mor egwyddorol a chadarn ei farn ag Andrew, ac mae hynny'n nodwedd dda mewn gwleidyddiaeth."
'Drws ddim ar gau'
Mae Ms Wood wedi mynnu sawl gwaith na fyddai hi'n barod i glymbleidio gyda'r Ceidwadwyr yn y Cynulliad er mwyn ffurfio llywodraeth - rhywbeth mae eraill o fewn Plaid Cymru wedi dweud y dylid ystyried.
Ond gydag AC Rhondda yn wynebu her bosib i'w harweinyddiaeth yn fuan, awgrymodd Mr Crabb y gallai'r ddwy blaid gydweithio yn y dyfodol "gyda'r bobl iawn yn eu lle".
"Dwi'n gwybod fel ffaith o fy nyddiau fel Ysgrifennydd Cymru yn siarad â ffigyrau amlwg o fewn Plaid Cymru nad yw'r drws wedi cau ar weithio gyda'r Ceidwadwyr Cymreig," meddai.
"[Gyda'r] pwyslais cywir ar werthoedd a syniadau ac amddiffyn buddiannau Cymru, yna byddai cyfle am ddewis amgen i lywodraeth Lafur Cymreig, a dyna dwi'n credu sydd wir ei angen ar Gymru."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd24 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd26 Mehefin 2018