Cynllun i geisio lleihau y stigma o ddefnyddio banciau bwyd

  • Cyhoeddwyd
Sian Northey
Disgrifiad o’r llun,

Sian Northey sy'n arwain y cynllun gyda'r disgyblion

Mae cynllun newydd unigryw yn cael ei ddatblygu ym Mlaenau Ffestiniog i drio ceisio lleihau'r stigma o ddefnyddio banciau bwyd.

Er bod 'na ddegau o filoedd o bobl ar draws Cymru yn defnyddio'r banciau bwyd, mae nifer o bobl yn ceisio cuddio'r ffaith eu bod nhw yn eu defnyddio.

Dros yr wythnosau diwetha' ma' rhai o ddisgyblion Ysgol y Moelwyn wedi bod yn helpu'r banc bwyd ym Mlaenau Ffestiniog.

Trwy weithdai creadigol mae'r disgyblion wedi cael agoriad llygad am y gwaith sy'n cael ei wneud yno.

Disgrifiad,

Mae disgyblion Ysgol y Moelwyn wedi bod yn edrych ar waith y banc bwyd ym Mlaenau Ffestiniog

Sian Northey yw bardd preswyl y banc bwyd a hi sy'n arwain y cynllun drwy gynnal gweithdai ysgrifennu creadigol gyda rhai o ddisgyblion mewn tair ysgol leol.

Yn ôl Ms Northey mae'r gweithdai wedi cael "ymateb da iawn.

"Mae'n ddifyr gan fod y plant yn y gwahanol ysgolion o wahanol oedran - felly mae eu dealltwriaeth nhw a'u hymateb nhw yn wahanol.

Ychwanegodd Ms Northey fod y prosiect yn gyfle i'r disgyblion ddefnyddio eu dychymyg am y banc bwyd, ond ar y llaw arall mae'n rhaid bod yn "ymwybodol y gallai rhai o'r plant fod yn ddefnyddwyr y banc bwyd".

Bydd darnau o'r cerddi a'r sgriptiau sydd wedi cael eu paratoi gan y disgyblion yn cael eu defnyddio a'u dangos mewn arddangosfa ym Mlaenau Ffestiniog gydol fis Awst.