'Disgwyl cynnydd mawr' yn nefnydd banciau bwyd
- Cyhoeddwyd
Pan fydd budd-dal credyd cynywsol yn cael ei ymestyn ar draws Cymru, gallai fod cynnydd sylweddol yn nifer y bobl sydd angen defnyddio banciau bwyd, yn elusen Ymddiriedolaeth Trussell.
Dywedodd cyfarwyddwr yr elusen, Tony Graham, fod banciau bwyd Cymru eisoes yn paratoi i helpu mwy o bobl wrth i'r system budd-dal newydd ehangu.
Mae'r budd-dal newydd yn cymryd lle chwech o fudd-daliadau'r gorffennol, gan gynnwys credyd treth, budd-dal tai a budd-dal diweithdra.
Dywedodd Adran Gwaith a Phensiynau Llywodraeth y DU nad oes rhaid i unrhyw un aros am eu taliad cyntaf os oes ei angen ar frys.
Ond mae rhai sydd eisoes ar y credyd cynhwysol yn honni fod oedi hir cyn derbyn budd-dal neu newidiadau i'r arian y maen nhw'n ei dderbyn wedi eu gadael mewn tlodi.
Dywedodd Mr Graham: "Ry'n ni wedi gweld cynnydd o 30% yn y defnydd o fanciau bwyd yn yr ardaloedd o Loegr lle mae credyd cynhwysol wedi dechrau, felly byddwn yn disgwyl yr un math o newid yma yng Nghymru pan fydd y budd-dal newydd wedi'i ymestyn ar draws y wlad."
Cafodd banc bwyd cyntaf yr elusen yng Nghymru ei sefydlu yng Nglyn Ebwy ddeng mlynedd yn ôl i'r wythnos hon.
Yn y flwyddyn gyntaf, fe wnaeth y banc ddosbarthu cyflenwad bwyd argyfwng i 76 o bobl.
Bellach mae'r rhwydwaith wedi tyfu i 37 o fanciau bwyd a 110 o ganolfannau dosbarthu yng Nghymru.
Y llynedd fe gafodd cyflenwadau argyfwng eu dosbarthu i 95,190 o deuluoedd mewn tlodi yng Nghymru.
Adrian Curtis oedd un o'r bobl a sefydlodd y banc bwyd cyntaf yn 2008, a dywedodd: "Ro'n i'n gwybod fod Cymru yn cael trafferthion gyda thlodi, ond mae maint y broblem yma dros y 10 mlynedd ddiwethaf wedi fy synnu, a does dim arwydd fod yr angen yn lleihau."
Dywedodd yr Adran Gwaith a Phensiynau eu bod yn gobeithio y bydd y credyd cynhwysol wedi ei ymestyn i bob rhan o'r DU erbyn 2022.
Meddai llefarydd: "Mae credyd cynhwysol wrth galon ein hymrwymiad i gynorthwyo pobl i wella'u bywydau.
"Nid oes rhaid i unrhyw un ddisgwyl am eu taliad credyd cynhwysol cyntaf os ydyn nhw mewn gwir angen, gan y gallan nhw gael taliad 100% o flaen llaw ar yr un diwrnod y byddan nhw'n gwneud eu cais."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Awst 2017
- Cyhoeddwyd15 Awst 2017
- Cyhoeddwyd25 Ebrill 2017