Cyhoeddi enw dyn fu farw ar yr A470 ger Dolgellau

  • Cyhoeddwyd
Ryan John CraddockFfynhonnell y llun, Llun teulu

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cyhoeddi enw dyn 18 oed a fu farw mewn gwrthdrawiad ar yr A470 ar gyrion Dolgellau ddydd Sul.

Roedd Ryan John Craddock yn dod o ardal Cannock yn Sir Stafford. Bu farw yn y fan a'r lle.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r ardal ychydig ar ôl 17:15 wedi gwrthdrawiad rhwng Seat Ibiza du a lori.

Mae dau ddyn oedd yn teithio yn y car yn dal i gael triniaeth at anafiadau difrifol mewn ysbyty yn Stoke.

Ffynhonnell y llun, Erfyl Lloyd Davies
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd y ddamwain tua 17:15 ddydd Sul 1 Gorffennaf

Mewn datganiad yn disgrifio maint colled y teulu, dywedodd rhieni Mr Craddock ei fod "yn fab, brawd, ewythr ac ŵyr hapus, caredig, ystyriol a serchus".

Roedd yn gweithio fel labrwr, ac wedi chwarae i dimau pêl-droed dan-18 Stafford Rangers a dan 21-Tamworth.

Roedd hefyd yn mwynhau ymweld â thraethau gogledd Cymru gyda'i ffrindiau, yn ôl ei deulu, sydd wedi diolch i'r bobl wnaeth stopio wedi'r ddamwain "i helpu Ryan a'i ffrindiau".

Mae'r heddlu yn dal yn gofyn am wybodaeth gan unrhyw un a welodd y ddamwain neu a welodd y cerbydau cyn y gwrrthdrawiad.

Dywedodd y Sarjant Meurig Jones o Uned Plismona'r Ffyrdd fod y car yn teithio i gyfeiriad y de heibio Dolgellau a'r lori'n teithio i'r gogledd i gyfeiriad y dref.