Popeth ry'ch chi angen ei wybod am y tywydd poeth
- Cyhoeddwyd
Gyda rhagolygon tywydd yn ei addo hi'n sych a chynnes am o leia' pythefnos eto, dyma rai ffeithiau am y tywydd diweddar a chynghorion ar sut i gadw'n ddiogel:

Mae cannoedd o bobl yn heidio i Ynys y Barri dros yr haf
Bu Cymru Fyw yn holi Rhian Haf, cyflwynydd tywydd BBC Cymru, am rai ffeithiau am Haf 2018
Pam mai Porthmadog yw'r ardal boethaf yng Nghymru?
"Gan fod y gwynt yn chwythu o'r gogledd-ddwyrain ar hyn o bryd, Porthmadog yw'r man cynhesa, wrth i'r gwynt gael ei chwythu dros fynyddoedd Eryri, ac i lawr yr ochr arall pan ma'r aer yn cael ei gywasgu, yn sychu ac yn cynhesu fwyfwy. Y term am hyn yw effaith 'FOEHN'."
Oes 'na law ar ei ffordd?
"Ar wahân i ambell gawod ddydd Mercher neu ddydd Iau yr wythnos hon - ac ambell gawod o law taranau yr wythnos nesa', fydd hi'n dal yn sych weddill yr wythnos, ac wythnos nesa' hefyd, a'r tymheredd dal yn uwch na'r arfer. "
Pryd oedd hi mor boeth â hyn ddiwethaf?
"Y mis diwetha' oedd y mis Mehefin cynhesaf ar gofnod i Gymru a Gogledd Iwerddon. Ar gyfartaledd roedd y tymheredd yn 19.9C, fel ym mis Mehefin 1976, ac yn debyg i fis Mehefin 1940 pan roedd hi'n 20.6C ar gyfartaledd."
Pam ein bod ni'n cael cyfnod mor hir o wres a sychder ar hyn o bryd?
"Y rheswm am y gwres a'r sychder yw'r gwasgedd uchel dros y Deyrnas Unedig. Mi fydd yn gwanhau rhywfaint ganol yr wythnos, neith alluogi rhai cawodydd i ddatblygu, ond ddiwedd yr wythnos mi fydd gwasgedd uchel arall yn sefydlu dros y wlad, sy'n golygu y bydd hi'n troi'n sych i ni gyd eto, ac yn cynhesu fwyfwy erbyn y penwythnos."
Beth am lefel y paill?
"Mae lefel y paill yn debygol o fod yn uchel am y pythefnos nesa'. Gwair a chwyn sy'n gyfrifol am glefyd y gwair ar hyn o bryd."
Beth am gryfder yr haul?
"Mae lefel yr UV yn uchel iawn ar hyn o bryd - mae'r haul ar ei gryfa' ar yr adeg yma o'r flwyddyn, felly mae'n ddoeth i osgoi'r heulwen yn gynnar yn y p'nawn; cario dŵr pan yn teithio, ac yn ystod digwyddiadau mawrion. "
Sut fydd y tywydd ar gyfer y Sioe Fawr a'r Eisteddfod Genedlaethol?!
"Mae hi'n anodd rhagweld y tywydd bron i dair wythnos o flaen llaw, ond does dim sôn y bydd y gwasgedd uchel yn symud oddi wrthon ni am sbel eto, er bod yna arwyddion y bydd y tywydd yn fwy ansefydlog ddiwedd mis Gorffennaf, efo gwynt o'r gorllewin, all ddod â glaw. "

Roedd y tywydd yn wlyb ac yn ansefydlog iawn adeg Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn yn 2017, ond daeth yr haul i wenu am ychydig.

Sut i gadw'n ddiogel yn yr haul
Yfed digon o ddŵr
Osgoi bod allan yn haul cynnes y prynhawn
Gwisgo digon o eli haul rhag llosgi
Cau'r llenni i gadw'r tŷ yn oer

Sut i arbed dŵr

Yn ôl Dŵr Cymru does dim problemau gyda ffynonellau dŵr ar hyn o bryd. Ond eu neges ydy i ddefnyddio cymaint o ddŵr yfed ag rydych ei angen, ond i beidio â'i wastraffu.
Dyma'u cyngor ar sut i arbed dŵr:
Diffodd y tap wrth olchi dannedd
Cymryd cawod yn lle bath
Mae'n bwysig i beidio â chwtogi ar faint o ddŵr rydych yn ei yfed, ond cadwch jwg o ddŵr yn yr oergell fel nad oes rhaid i chi redeg y tap mor hir am ddiod oer
Llenwch y peiriant golchi llestri a'i osod ar 'eco' neu arhoswch a golchi eich llestri i gyd ar un tro
Defnyddiwch gan dŵr yn hytrach na phibell ddŵr i ddyfrio eich planhigion a blodau. Mae dyfrio yn gynnar yn y bore neu'n hwyr yn y prynhawn yn lleihau anweddiad ac yn arbed dŵr.
Sut i edrych ar ôl anifeiliaid yn y tywydd poeth

Ci-sgodi rhag yr haul.
Mae RSPCA Cymru yn rhybuddio perchnogion anifeiliaid a ffermwyr i gymryd gofal o'u hanifeiliaid yn y tywydd poeth.
Dyma rai cynghorion ar sut i ofalu am anifeiliaid mewn tywydd poeth:
Peidiwch â gadael cŵn mewn cerbydau crasboeth. Yn ôl RSPCA gall tymheredd godi'n sydyn mewn ceir, carafanau a hyd yn oed stafelloedd gwydr (conservatories). Meddai llefarydd: "Pan mae'n 22C y tu allan, o fewn awr gall y tymheredd godi i 47C y tu mewn i gerbyd. Gall hwn achosi trawiad gwres a gall ladd cŵn."
Gwnewch yn siŵr bod gan anifeiliaid gysgod a dŵr glân i yfed
Peidiwch â'u gor ymarfer nhw mewn gwres llethol
Os yw'r palmant yn rhy dwym i'ch llaw, mi fydd yn rhy dwym i bawennau
Rhowch bowlen ddŵr y ci yn y rhewgell cyn rhoi dŵr ynddo, neu rhoi ciwbiau iâ yn y dŵr i'w gadw'n oerach am yn hirach
Rhowch dywelion damp i'r anifail orwedd arno
Ni ddylid cludo anifeiliaid mewn tywydd poeth heblaw ei fod yn hanfodol
Peidiwch â gadael i anifeiliaid losgi yn yr haul
Cadwch danciau pysgod allan o'r haul a cadwch lefel y pwll dŵr yn uchel
Ffoniwch 999 i siarad gyda'r heddlu os gwelwch chi anifail mewn sefyllfa beryglus