BBC Cymru i dorri dwsinau o swyddi technoleg ac archifau
- Cyhoeddwyd
Mae BBC Cymru wedi cyhoeddi eu bwriad i dorri 83 o swyddi yn eu hadrannau technoleg, adnoddau ac archifau.
Daw'r cyhoeddiad am y toriadau cyn i'r darlledwr adleoli ei bencadlys o Landaf i Sgwâr Canolog Caerdydd.
Fel rhan o'r aildrefnu bydd 18 o swyddi newydd yn cael eu creu felly mae BBC Cymru'n dweud mai 65 yw'r nifer cyfan o swyddi fydd yn mynd.
Dywedodd y BBC bod angen cyflwyno'r newidiadau cyn symud gweithwyr i'r adeilad newydd, a bod ymgynghoriad wedi dechrau gyda staff ac undebau.
Mae disgwyl i'r newidiadau ddigwydd erbyn diwedd 2019 neu ddechrau 2020, wrth i'r timau adleoli i ganol y ddinas.
Staff S4C
Ymysg y rhai fydd yn cael eu heffeithio gan y newidiadau mae 35 o aelodau staff sydd yn gweithio yn S4C ar hyn o bryd, ond fydd yn mynd i weithio i'r BBC pan fydd y darlledwyr yn rhannu systemau yn yr adeilad newydd.
Ar hyn o bryd mae gan S4C ei thechnoleg ei hun i ddarlledu o'i phencadlys yn Llanisien, ond bydd staff y sianel yn dechrau symud i'w phencadlys newydd yng Nghaerfyrddin yn fuan.
Fis Ebrill, fe gafodd y BBC yr allweddi i'w phencadlys newydd yn y Sgwâr Canolog, a'r adeilad fydd y cyntaf o'i fath ym Mhrydain i ddefnyddio technoleg newydd fydd yn cysylltu teclynnau ac offer trwy gyswllt internet protocol.
Tua £100m ydy buddsoddiad y BBC yn yr adeilad newydd, a bydd tai yn cael eu codi ar safle'r pencadlys presennol yn Llandaf.
Dywed BBC Cymru y bydd yr ad-drefnu'n symleiddio ffyrdd o weithio ac yn sicrhau arbedion i'r gorfforaeth ac i S4C.
Yn ôl Cyfarwyddwr BBC Cymru, Rhodri Talfan Davies mae'r "newidiadau arfaethedig, er eu bod yn hynod o anodd, yn hanfodol os ry'n ni am baratoi'r sefydliad ar gyfer symud".
"Gyda buddsoddiad mor fawr mewn systemau technoleg newydd - gan gynnwys archif ddigidol gyflawn - roedd newidiadau yn anochel," meddai.
"Ond dwi'n gwybod y bydd y cyhoeddiadau heddiw yn achosi cryn bryder, a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi cydweithwyr yn ystod y cyfnod hwn o newid."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd1 Rhagfyr 2015