Gwahardd ymgeisydd Ceidwadol am 'sylwadau annerbyniol'

  • Cyhoeddwyd
Pleidleisio

Mae ymgeisydd gafodd ei dewis gan y Ceidwadwyr i sefyll mewn isetholiad cyngor wedi cael ei gwahardd gan y blaid yn dilyn "sylwadau annerbyniol" ar gyfryngau cymdeithasol.

Roedd Laurel Ellis wedi ei dewis i sefyll yn ward Gurnos ar Gyngor Sir Merthyr Tudful.

Fe wnaeth Ms Ellis rannu negeseuon yn beirniadu Islam ac arweinydd y Ceidwadwyr, Theresa May.

Dywedodd Ms Ellis nad yw am amddiffyn y negeseuon a'i bod yn difaru'r sylwadau a wnaeth am Mrs May ar Twitter.

'Sharia May'

Fe wnaeth y Ceidwadwyr gyhoeddi bod Ms Ellis wedi'i gwahardd yn dilyn ymholiadau gan BBC Cymru am ei negeseuon Facebook ddydd Mercher.

Dywedodd y blaid na fyddai hi'n sefyll ar eu rhan - ond mae'r papurau enwebu eisoes wedi'u cyflwyno a bydd ei henw'n ymddangos ar y papur pleidleisio.

Fe wnaeth tudalen Facebook Ms Ellis rannu un neges oedd yn awgrymu bod Prydain yn oddefgar "cyn i'r Mwslemiaid fartsio".

Roedd un arall, gyda'r pennawd "Sharia May", yn cynnwys llun wedi'i addasu yn dangos Theresa May yn gwisgo dillad crefyddol Mwslimaidd.

Roedd y negeseuon yn deillio o dudalennau Facebook eraill yn wreiddiol.

Mewn neges Twitter cyn i Mrs May ddod yn arweinydd ar y blaid Geidwadol, dywedodd Ms Ellis: "Arweinydd sy'n cefnogi Islam ac sy'n hapus cael Deddfau Sharia yn ein gwlad?"

'Cynrychioli pobl o bob cefndir'

Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig fod y blaid yn ceisio "ymestyn allan a chynrychioli holl gymunedau a phobl o bob cefndir yng Nghymru".

Cyn y gwaharddiad dywedodd AC Llafur Merthyr Tudful a Rhymni, Dawn Bowden: "Mae'n bryderus fod y Ceidwadwyr Cymreig wedi dewis ymgeisydd swyddogol â safbwyntiau sy'n ymddangos mor annymunol a gwrth-Islam, sydd hefyd yn edrych fel petawn nhw hyd yn oed yn ymosod ar arweinydd ei phlaid ei hun.

"Mae'n glir fod gan y Ceidwadwyr Cymreig gwestiynau i'w hateb ynglŷn â sut y cafodd ymgeisydd o'r fath ei dewis."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Dawn Bowden wedi mynegi pryder am negeseuon Ms Ellis, sydd wedi ymateb gan honni i'w geiriau gael eu 'camliwio'

Dywedodd Ms Ellis: "Rwy'n mawr edifar y sylw a wnes i ynghylch Theresa May ac rwyf wedi gwneud fy ngorau ers ymuno â'r Ceidwadwyr i weithio tuag at lwyddiant y blaid.

"Megis gair i ddod â trafodaeth i ben, yn fy nhyb i, yw'r cyhuddiad o wrth-Islamiaeth, i 'nhyb i. Roedd fy sylwadau i wedi'u hanelu at derfysgwyr yn unig."

Ychwanegodd: "Dydw i ddim am amddiffyn hen negeseuon rwyf wedi'u rhannu, er rwy'n credu ein bod â gwlad ardderchog.

Gan gyfeirio at Ms Bowden, dywedodd "mae'r aelod Llafur wedi camliwio fy ngeiriau a'r ystyr."

Mae'r isetholiad ar 26 Gorffennaf yn cael ei gynnal wedi i'r cyn-gynghorydd, Rhonda Braithwaite gamu o'r neilltu am resymau personol ym mis Mai.

Mae Allyn Hooper o'r blaid Lafur, a'r ymgeiswyr annibynnol Dillan Singh a Jeremy Davies, hefyd yn sefyll.