Lluniau: Diwrnod ym mywyd ysbytai Gwynedd a Glangwili
- Cyhoeddwyd
Oriel luniau arbennig o Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin ac Ysbyty Gwynedd, Bangor wrth i'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol droi'n 70 oed.
Dyma Zavier yn mwynhau cwtsh gyda'i fam, Alicia o Drimsaran. Daeth Zavier i'r byd am 2:28am - y babi cyntaf i gael ei eni yn Ysbyty Glangwili ar ddiwrnod penblwydd y Gwasanaeth Iechyd.
A dyma ddau o fabis cynta'r dydd yn Ysbyty Gwynedd - Ibrahim a aned am 02.59 a Jaco Vaughan a aned am 02.18. Maen nhw'n cael pob gofal yn y ward mamolaeth ym mreichiau Lynne Roberts a Michelle Jones.
Yankier Perez o Guba sydd bellach yn byw yn Llanrug ac yn ymgeisydd Dysgwr y Flwyddyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.
Economeg oedd maes Yankier nôl yn Cuba ond, bum mlynedd yn ôl, ail-hyfforddodd fel fferyllydd yn Ysbyty Gwynedd lle mae dros 100 o bobl yn gweithio yn y Fferyllfa. Pan gychwynnodd, roedd yn dysgu Cymraeg ac yn gloywi ei Saesneg yr un pryd - mae'r Gymraeg yn hollbwysig i siarad gyda chleifion a staff eraill, meddai.
Ers y chwyldro yn Cuba mae gan y wlad honno hefyd system iechyd nad oes raid talu amdani fel ein Gwasanaeth Iechyd ni.
Tair wythnos yn ôl roedd Riley, o Ben-bre yn Sir Gâr, yn chwarae pêl-droed yn yr ysgol pan glywodd ei ffrindiau glec enfawr wrth iddo gael ei daclo.
Aeth ei rieni ag ef i'r ysbyty yn bŵt y car lle darganfyddon nhw fod Riley wedi torri ei goes mewn dau le.
Mae nôl yn Ysbyty Glangwili heddiw gyda'i fam Gemma i gael pelydr-X i weld sut mae'n gwella, cyn i'r goes fynd yn ôl i blastr am saith wythnos arall.
Nicole (chwith) ar ddechrau ei shifft ar ward cyn-geni Glangwili ac Emma sy'n dod i ddiwedd ei shifft nos - ac yn dal i wenu!
Bydd wyneb Nic Davies, sydd yn nyrs yn ward y plant yn Glangwili, sef ward Cilgerran, yn gyfarwydd i nifer ohonoch chi efallai.
Roedd Nic yn un o gystadleuwyr y gyfres Ffit Cymru ar S4C a byddwch chi'n falch o wybod ei fod yn parhau i edrych ar ôl ei hun er bod y gyfres wedi dod i ben.
Mae Nic newydd orffen shifft nos, ac felly beth gwell i wneud na mynd mas i redeg? Parch!
Mae gan Jamie o Ynys Môn awtistiaeth ac mae wrth ei fodd efo cŵn felly mae cŵn fel y ci therapi yma, Max, yn ei helpu pan mae'n ymweld â'r ysbyty.
John Owen yw cydlynydd staff y ddesg groeso yn Ysbyty Gwynedd - fe gafodd driniaeth ei hun yno am ganser y croen rai blynyddoedd yn ôl ac ar ddiwrnod pen-blwydd y GIG mae'n rhybuddio eraill i fod yn ofalus a chofio defnyddio eli haul yn y tywydd poeth.
Y Caplan Wynne Roberts yng nghapel Ysbyty Gwynedd - mae gan Wynne bersona arall fel Elvis Presley hefyd ac mae'n cynnal sioeau fel y Brenin ar hyd a lled y wlad.
Mae Ethan o Gaergybi yn fachgen dewr iawn wrth aros am ganlyniad ei belydr-X gyda Susan ei fam yn uned mân ddamweiniau Ysbyty Gwynedd. Fe syrthiodd oddi ar y sleid yn yr ysgol a brifo ei ysgwydd. Daeth i mewn i'r uned ddamweiniau neithiwr ond roedd hi mor brysur fe benderfynon nhw aros tan y bore i ddod nôl yn hytrach nag aros. Croesi bysedd y bydd yn gwella'n fuan!
Claire Lusk a Karen Millen yn cymryd hoe o'u swyddi fel Dirprwy Reolwyr Ward i ddathlu yn nhe parti 70 y GIG yn Ysbyty Gwynedd.
Mae Anna Elias yn gynorthwyydd chwarae yn ward plant Ysbyty Glangwili, sef ward Cilgerran.
Mae hi a'i thîm yn paratoi plant ar gyfer y theatr a thriniaethau a hefyd yn cynnig cefnogaeth i rieni drwy edrych ar ôl y plant ar adegau pan fydd angen bwyd neu hoe fach.
Mae'r lle chwarae allanol bendigedig ar agor ers rhyw flwyddyn bellach, ac yn llawn rhoddion gan rieni diolchgar sydd wedi bod â phlant yn y ward.
Barbara Williams o Frynsiencyn gyda llun o'i hun yn nyrs ifanc yn hen ysbyty C&A Bangor yn 1979.
Yn 72 oed mae Hefin ddwy flynedd yn hŷn na'r GIG - ac yn dal i weithio yn ward orthopedic Ysbyty Gwynedd. Yn 1985 pan gychwynnodd nyrsio ar ôl i'w swydd mewn ffatri yng Nghaernarfon ddod i ben, gwisgodd fel nyrs benywaidd un diwrnod Nadolig i godi calon y cleifion - mae'r lluniau ganddo byth!
Sandra a Michelle sydd yng ngofal y ddesg yn yr adran Mân Anafiadau sy'n rhan o'r uned ddamweiniau brys. Nhw sy'n delio gyntaf gydag anafiadau llai difrifol sy'n dod i'r uned A&E - gallan nhw naill ai drin y claf a'i anfon adref neu weithiau mae'n fwy difrifol nag mae'n ymddangos ac mae'r claf yn cael ei anfon mlaen i uned arall.
Yr efeilliaid 10 wythnos oed, Otis ac Elsie, oedd y babis olaf i Dr Bolton ei hesgor cyn ymddeol. Daeth Dr Bolton (ar y dde) nôl i weld y babis a'u mam, Hannah, sy'n fydwraig yn Ysbyty Gwynedd, ar gyfer parti dathlu 70 uned famolaeth yr ysbyty.