RSPB i apelio yn erbyn penderfyniad tâl parcio Ynys Lawd

  • Cyhoeddwyd
ynys LawdFfynhonnell y llun, Melanie Davies

Mae elusen yr RSPB wedi dweud y byddan nhw'n apelio yn erbyn penderfyniad Cyngor Môn i wrthod caniatáu codi ffi am barcio ger Ynys Lawd.

Ddeufis yn ôl cafodd y cynlluniau i godi tâl o hyd at £5 am barcio ger yr atyniad poblogaidd eu gwrthod gan gynghorwyr.

Cafodd y cynlluniau eu galw'n "anghyfiawn ac annheg" gan aelod o bwyllgor cynllunio'r cyngor, a ychwanegodd y byddai "goblygiadau iechyd a diogelwch difrifol".

Ond mae'r elusen nawr yn dweud eu bod wedi diwygio'r cynlluniau, a'u bod am apelio yn erbyn penderfyniad y pwyllgor cynllunio.

'Angen incwm'

Wrth wrthod y cais gwreiddiol dywedodd y pwyllgor y byddai'r gost yn creu problemau y tu allan i'r maes parcio wrth i bobl geisio osgoi talu, ac o bosib yn atal pobl leol ac ymwelwyr rhag dod.

Ond dywedodd llefarydd ar ran yr RSPB fod angen iddyn nhw gyflwyno tal o ryw fath er mwyn codi digon o arian i fod yn "gynaliadwy".

"Codi ffi parcio yw'r ffordd fwyaf priodol o godi incwm ychwanegol, sydd yn dod yn arferol i nifer o gyrff cyhoeddus ac elusennau sy'n edrych ar ôl atyniadau a pharciau cyhoeddus," meddai.

"Rydym yn deall ei fod yn bwnc sy'n cynhyrfu ac rydym wedi meddwl yn galed am y sylwadau a'r awgrymiadau sydd wedi'n cyrraedd ni. O ganlyniad rydym wedi datblygu pecyn o gonsesiynau pellach allai gael eu cyflwyno fel prawf."

Disgrifiad o’r llun,

Does dim rhaid talu am barcio ar y safle ar hyn o bryd

Ymhlith yr awgrymiadau mae cynllun i ymestyn ffi flynyddol o £20 am gael parcio ger y safle yng Nghaergybi i holl drigolion Ynys Môn.

Maen nhw hefyd eisiau cyflwyno ffi o £2 yr awr am barcio yn yr haf, ac £1.50 yn y gaeaf, gyda chyfraddau dyddiol o £5 neu £2.50.

Ychwanegodd y llefarydd eu bod yn bwriadu cyflwyno cais newydd yn fuan er mwyn ceisio cael caniatâd ar gyfer y cynlluniau diwygiedig.

"Mae adeiladau Ynys Lawd wir angen eu hadnewyddu, a dyw adeilad y swyddfa ddim yn strwythurol saff," meddai.