Lluniau: Eisteddfod Ryngwladol Llangollen 2018
- Cyhoeddwyd
Roedd yn wythnos o ddathlu a chroesawu cerddoriaeth a gwledydd y byd yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen, Gorffennaf 3 - 8, 2018.
Mwynhewch rai o uchafbwyntiau lliwgar yr ŵyl:

Y Parêd Rhyngwladol trwy dref Llangollen ddydd Gwener

Y Parêd Rhyngwladol trwy dref Llangollen ddydd Gwener

Seren y West End Alfie Boe yn y cyngerdd agoriadol nos Fawrth, 3 Gorffennaf

Perfformiad yn yr haul ar sgwâr y dref

Kamal Sharma ar lwyfan Lindop Toyota

Ar y nos Sul olaf, roedd Kaiser Chiefs yn perfformio yng ngŵyl Llanfest

Llinynnau soniarus Ensemble Guzheng

Y Parêd Rhyngwladol

Gwledd o faneri lliwgar yn y parêd

Y band baróc, Red Priest ar lwyfan y Pafiliwn ddydd Sadwrn

Coleen Nolan ac Amber Davies yn perfformio yn y noson o gyd-ganu ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd

Plant o Ysgol Dinas Brân yn perfformio'r Neges Heddwch yn yr Eisteddfod

Vicky Yannolua, Cyfarwyddwr Cerddorol yr Eisteddfod yn perfformio ar lwyfan y Pafiliwn
Hefyd o ddiddordeb: