Modd astudio meddygaeth ym Mangor yn 2019

  • Cyhoeddwyd
Meddyg teulu

Bydd myfyrwyr yn gallu astudio meddygaeth yn llwyr yng ngogledd Cymru yn y dyfodol ar ôl i'r Ysgrifennydd Iechyd gyhoeddi cynlluniau i ehangu addysg feddygol ledled Cymru.

Mae disgwyl i'r cynlluniau ddod i rym yn 2019 yn sgil cydweithio rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Bangor.

Yn ogystal bydd arian yn cael ei roi i ddarparu 40 o leoedd newydd i fyfyrwyr meddygol o fis Medi ymlaen - 20 yn ysgol feddygol Caerdydd ac 20 yn ysgol feddygol Abertawe.

Bydd Prifysgol Abertawe hefyd yn cydweithio â Phrifysgol Aberystwyth i sicrhau mwy o gyfleoedd yn y gorllewin.

'Cydweithio yn lle ysgol feddygol newydd'

Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd cymaint â phosibl o astudiaethau'r myfyrwyr yn digwydd mewn lleoliadau yn y gymuned er mwyn adlewyrchu eu polisi o sicrhau bod gofal yn cael ei ddarparu mor agos ag y bo modd at gartrefi'r cleifion.

Dywedodd yr ysgrifennydd, Vaughan Gething: "Rwy'n falch iawn o allu cyhoeddi y bydd myfyrwyr nawr yn gallu dechrau'r daith at fod yn feddygon drwy astudio meddygaeth yn y gogledd.

"Daw hyn yn sgil cydweithio rhwng prifysgolion Cymru i fynd i'r afael â'r heriau sy'n ein hwynebu o ran cynnal ein gweithlu meddygol yng Nghymru."

Disgrifiad o’r llun,

Yng Ngorffennaf 2017 dywedodd Vaughan Gething nad oedd wedi ei berswadio bod angen ysgol feddygol i'r gogledd

Ychwanegodd ei fod "wastad wedi bod yn glir mai cydweithio fyddai'r ffordd orau o ehangu addysg feddygol" yn y gogledd, yn hytrach na chreu ysgol feddygol newydd.

"Mae hyn yn golygu y bydd modd rhoi trefniadau ar waith i fyfyrwyr allu astudio meddygaeth yn y gogledd yn llawer cynt na phe baem yn mynd ati sefydlu ysgol feddygol newydd."

Dywedodd hefyd bod angen "cydnabod yr heriau" mewn rhannau eraill o Gymru, ac y byddai felly'n "cynyddu'r niferoedd yn Abertawe ac yn eu helpu i gydweithio â Phrifysgol Aberystwyth i sicrhau bod mwy o gyfleoedd ar gael yn y gorllewin".

'Newyddion da i gleifion'

Mae aelodau Plaid Cymru, Siân Gwenllian AC a Hywel Williams AS wedi croesawu'r penderfyniad gan ddweud: "Mae hyn yn newyddion ardderchog sy'n golygu y bydd meddygon am y tro cyntaf erioed yn cael eu hyfforddi ym Mangor.

"Mae tystiolaeth yn dangos bod meddygon yn aros yn yr ardal y cawsont eu hyfforddiant - mae'n newyddion da i gleifion sydd wedi bod yn aros yn hir am driniaeth oherwydd prinder meddygon.

"Ry'n yn falch bod Llywodraeth Cymru wedi gwrando o'r diwedd."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Sian Gwenllian yn feirniadol o benderfyniad i wrthod sefydlu ysgol feddygol yng ngogledd Cymru llynedd

Dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams: "Rwy'n falch iawn ein bod yn cynyddu niferoedd y lleoedd mewn ysgolion meddygol yng Nghymru ac y bydd modd i fyfyrwyr astudio am raddau yn y gogledd a'r gorllewin.

"Rydyn ni wedi cydweithio'n agos â'r prifysgolion i wneud yn siŵr bod y lleoedd hyn ar gael cyn gynted â phosibl, ac rwy'n ddiolchgar iddyn nhw am fynd ati i sicrhau bod y cynllun ehangu pwysig hwn yn cael ei wireddu."

'Datblygiad cyffrous'

Dywedodd Is-ganghellor Prifysgol Bangor, yr Athro John G. Hughes ei fod yn "ddatblygiad cyffrous dros ben".

"Bydd y datblygiad hwn, fydd yn dechrau yn 2019, yn ein galluogi i fynd ati'n gyflym i ehangu'r addysg feddygol sy'n cael ei darparu ym Mangor ac i ddod â rhagor o fyfyrwyr meddygol i'r gogledd.

"Bydd hyn o fantais i gleifion ac i'r cyhoedd, yn ddiamau."

Dywedodd Dr Stephen Riley, Deon Addysg Feddygol Prifysgol Caerdydd: "Mae'n rhoi cyfle gwych i adeiladu ar y berthynas sy'n bodoli'n barod rhyngom a Phrifysgol Bangor a Phrifysgol Aberystwyth, yn ogystal â'r byrddau iechyd prifysgol cysylltiedig.

"Bydd y buddsoddiad ychwanegol hwn yn caniatáu inni fwrw ymlaen â'r gwaith o ehangu mynediad at feddygaeth a chynyddu amrywiaeth o fewn y proffesiwn meddygol yng Nghymru, gan fynd i'r afael ag anghenion iechyd y boblogaeth."