'Argyfwng' meddygon teulu yn y gogledd

  • Cyhoeddwyd
Dr Eamonn Jessup
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Dr Eamonn Jessup mae nifer o feddygfeydd yn cael gwared â chytundebau GIG

Mae'r prinder meddygon teulu enbyd yn y gogledd bron â chyrraedd stâd o argyfwng yn ôl meddyg blaenllaw.

Yn ôl Dr Eamonn Jessup, cadeirydd Pwyllgor Iechyd Gogledd Cymru, mae'r rhan fwyaf o'r gogledd mewn peryg o golli meddygon teulu.

Mae o wedi ysgrifennu llythyr at Aelodau Cynulliad yn galw am gymorth i ddelio â'r argyfwng.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod cadw safon uchel o ofal sylfaenol ar draws Cymru yn flaenoriaeth.

Ers 2015 mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cymryd rheolaeth o saith practis ar draws y Gogledd wedi iddynt gael gwared â chytundebau GIG.

Yn ogystal, ym Mhrestatyn mae canolfan iechyd newydd wedi agor lle mae'r meddygon teulu'n cael eu cyflogi'n uniongyrchol gan y Bwrdd Iechyd Lleol wedi i dair meddygfa gau.

Mae disgwyl y bydd pedwar practis arall - sef Cricieth, Rysseldene ym Mae Colwyn a dau bractis arall yn Wrecsam yn dod â'u cytundebau i ben yn fuan.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Fe gyflwynodd meddygfa Rashmi yn Hen Golwyn , oedd â 1,200 cleifion, ei chytundeb GIG yn ôl i Fwrdd Betsi Cadwaladr yn Ionawr

Dywed y Bwrdd Iechyd ei fod yn parhau i weithio'n galed i ganfod atebion i'r problemau.

Yn ôl Dr Jessup mae rhybuddion wedi bod am yr argyfwng ers amser ond mae nifer y cytundebau sydd wedi cael eu trosglwyddo i'r bwrdd iechyd wedi cynyddu'n ddirfawr yn ddiweddar.

Dywedodd bod meddygon teulu wedi bod yn ymddeol yn gynnar oherwydd pwysau gwaith a bod sawl practis yn ei chael hi'n anodd i gael meddygon yn eu lle.

"Ry'n mewn sefyllfa lle mae y rhan fwyaf o'r Gogledd o fod mewn peryg o golli meddyg teulu.

"Yn Wrecsam mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn gyfrifol am bedwar practis ac mae 'na argyfwng hefyd ym Mae Colwyn, Conwy, Llandudno a Phen Llŷn."

Disgrifiad o’r llun,

Mae canolfan iechyd wedi agor ym Mhrestatyn wedi i sawl practis gau yn yr ardal

Mae Dr Jessop yn honni ei bod yn costio traean yn fwy i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr fod yng ngofal y gwasanaethau na phractis unigol.

Yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mae'r newidiadau i gytundebau meddygon teulu yn 2017-18 yn golygu fod y buddsoddiad mewn gofal sylfaenol wedi cynyddu £27m.

Mae gweinidogion yn gweithio gyda byrddau iechyd a chymdeithas feddygol y BMA i gefnogi meddygfeydd sy'n debygol o gau.

Ychwanegodd fod ymgyrch ddiweddar y llywodraeth i ddenu meddygon yn llwyddo i ddenu mwy o feddygon teulu i Gymru.

Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr bod y mater yn cael effaith ar ofal iechyd sylfaenol ar draws y DU a'u bod yn gweithio gyda partneriaid i "ddarparu y gwasanaeth gorau i gleifion ar draws gogledd Cymru".