Melin drafod yn cwestiynu cynllun i adfywio'r Cymoedd

  • Cyhoeddwyd
Cwm Rhymni

Mae rhaglen ar gyfer adfywio cymoedd y de wedi cael ei disgrifio gan felin drafod fel un sydd ddim yn cyrraedd y bobl sydd ei hangen fwyaf.

Cafodd 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol' ei lansio gan Lywodraeth Cymru flwyddyn yn ôl, ond dywedodd Sefydliad Bevan eu bod nhw ond wedi cynnig "mwy o'r un peth".

Fe ddywedon nhw hefyd nad oedd buddsoddiadau diweddar yn Ffynnon Taf a Nantgarw wedi cyrraedd rhannau creiddiol o'r cymoedd.

Dywedodd y llywodraeth nad oedd modd gwyrdroi degawdau o ddirywiad o fewn ychydig fisoedd, a'u bod yn "cymryd y peth o ddifrif".

'Ddim yn uchelgeisiol'

Ym mis Gorffennaf 2016 cafodd tasglu ei sefydlu i geisio gwella swyddi a safon byw yng nghymunedau'r cymoedd.

Eisoes maen nhw wedi cyhoeddi y bydd swyddfeydd Trafnidiaeth Cymru yn mynd i Bontypridd, ac y bydd yr Adran Waith a Phensiynau yn sefydlu pencadlys newydd yn Nantgarw.

Bydd ffatri ddillad hefyd yn agor yng Nglyn Ebwy a bydd canolfan drenau yn cael ei lleoli yn Ffynnon Taf.

Ond yn ôl Dr Victoria Winkler, cyfarwyddwr Sefydliad Bevan, mae angen targedu ardaloedd oedd wir angen cymorth yn well.

"Mae targed i gael 7,000 o bobl mewn swyddi yn swnio'n dda iawn ond os 'dych chi'n edrych yn ddyfnach, dyw hynny ddim yn uchelgeisiol o gwbl," meddai.

"Mae e tua beth sydd wedi'i gyflawni dros y blynyddoedd diwethaf ac os 'dyn ni'n parhau i wneud mwy o'r un peth, wnaiff y cymoedd ddim newid."

Dywedodd fod rhai ardaloedd ble mae 25% o bobl yn ddi-waith, a'i bod yn "anodd" deall sut bod Llywodraeth Cymru'n gallu byw gyda chymaint o dlodi ar eu stepen ddrws a pheidio gwneud mwy i hybu sgiliau a buddsoddiad.

Ychwanegodd hefyd fod angen gwneud pethau'n wahanol mewn gwahanol gymoedd er mwyn iddo weithio'n iawn.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd John Gates fod angen helpu'r gymuned i "adeiladu ei hun o'r gwaelod i fyny"

Roedd John Gates yn arfer gweithio yn y pyllau glo, ac mae bellach yn arwain cynllun cymunedol Maesteg Shedquarters sydd yn annog dynion i wneud gwaith ymarferol.

Mae'n dweud nad yw'n gwybod am unrhyw un o fewn y grŵp sydd wedi clywed am dasglu'r llywodraeth.

"Pan mae dyn mewn gwaith mae ganddo swydd, mae ganddo statws, mae ganddo awdurdod. Pan mae'n colli ei waith, mae hynny'n diflannu," meddai.

"Mae'n dod yn gynorthwy-ydd i'w wraig. Dwi wedi clywed am sawl achlysur ble mae gwragedd wedi dweud bod eu dynion nhw dan draed.

"Mae'n arbennig o anodd yn y cymoedd. Mae'n taro'n galetach. Pan ddiflannodd y diwydiannau trwm, fe ddiflannodd pwrpas y cymoedd.

"Fe wnaeth pawb ddisgyn mewn i'r iselder yna. Dwi'n meddwl bod hynny'n dechrau troi nawr, yr unig ffordd yw lan."

Dywedodd yr Ysgrifennydd Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, Alun Davies fod y llywodraeth yn canolbwyntio ar brosiectau fyddai'n gwneud gwahaniaeth a'i fod eisiau "cynyddu tempo" y buddsoddiadau.

"Rydw i'n rhannu'ch rhwystredigaeth - ond 'dwi eisiau ei gael e'n iawn fel ein bod ni yn y dyfodol yn edrych yn ôl ar benderfyniadau gafodd yr effaith fwyaf posib," meddai AC Blaenau Gwent.

Ychwanegodd fod pobl hefyd yn chwilio am safon uwch o fyw gan gynnwys gwell trafnidiaeth gyhoeddus, cymorth tuag at addysg, a thaclo problemau fel taflu sbwriel.

Ond mynnodd fod y targed o 7,000 o swyddi yn "realistig" ar adeg o bwysau economaidd.