Cyhoeddi dau gynllun i ariannu amaeth wedi Brexit
- Cyhoeddwyd

Mae dau gynllun newydd fydd yn ariannu'r sector amaethyddol ar ôl Brexit wedi eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru.
Bydd cyllid ar gael yn y dyfodol i hyrwyddo "gwydnwch economaidd" a chynorthwyo ffermwyr i ddarparu "nwyddau cyhoeddus".
Fe fydd y cymorthdaliadau presennol, sy'n cael eu talu'n uniongyrchol i ffermydd ac yn seiliedig ar faint o dir sydd ganddyn nhw, yn dod i ben.
Yn ôl yr Ysgrifennydd Materion Gwledig, Lesley Griffiths, mae'r cynlluniau newydd yn "gyfle i greu system newydd unigryw Gymreig sy'n gweithio er lles ffermwyr Cymru".
Ond mae'n dal i fod yn aneglur faint yn union o arian fydd ar gael a sut y bydd ceisiadau'n cael eu rheoli.
'Rhaid cael newid'
Mae undebau amaethyddol wedi galw am barhau gyda rhywfaint o gymorth uniongyrchol i ffermwyr er mwyn sicrhau sefydlogrwydd.
Dyma'r newidiadau mwyaf i bolisi amaeth am genhedlaeth, ac fe fyddan nhw'n cael eu cyflwyno gam wrth gam o 2020.
Bydd y cyntaf, y Cynllun Cadernid Economaidd, yn targedu cyllid i ffermydd a'u cadwyni cyflenwi gyda'r bwriad o hybu cynhyrchiant a bod yn fwy cystadleuol.
Byddai modd defnyddio arian er enghraifft i brynu peiriannau, diweddaru gwaith prosesu, helpu gyda chefnogaeth farchnata, a gwaith ymchwil a datblygu.

Mae Lesley Griffiths yn dweud na all pethau aros fel y maen nhw
Bydd yr ail, y Cynllun Nwyddau Cyhoeddus, yn cynnig grantiau a benthyciadau yn gyfnewid am helpu'r amgylchedd, gan fynd i'r afael â materion fel newid hinsawdd, colli cynefinoedd, ansawdd aer a dŵr gwael, a chynnal tirwedd Cymru.
Yn wahanol i'r system gyfredol, bydd y system newydd yn agored i bob rheolwr tir sy'n cynnwys ffermydd bychan, ffermydd cymunedol, perllannau, gerddi cyhoeddus a hyd yn oed rhandiroedd.
Bydd cyfnod o ymgynghori tan fis Hydref gyda chynigion yn cael eu cyhoeddi mewn papur gwyn yn y gwanwyn.
Gobaith Llywodraeth Cymru yw sicrhau bod y cynlluniau newydd ar waith yn llawn erbyn 2025, ond bydd hynny'n dibynnu ar drafodaethau Brexit.
"Ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd, bydd ein gallu i fasnachu mewn marchnadoedd a chystadlu yn newid," meddai Ms Griffiths.
"All pethau ddim aros fel ag y maen nhw. Mae gadael yr UE yn golygu bod yn rhaid gwneud pethau'n wahanol a nawr yw'r amser i baratoi ar gyfer hynny.

Mae llawer o dir Cymru'n cael ei ystyried yn 'llai ffafriol' na rhannau eraill o'r DU ar gyfer ffermio
"Mae angen i ni newid ein ffordd o gefnogi'n ffermwyr a'n sector amaethyddol i'w gwneud yn fwy cystadleuol ac yn fwy abl i lwyddo o dan amodau masnachu newydd.
"Nod ein rhaglen yw cadw ffermwyr yn ffermio ar eu tir a gweld y sector yn ffynnu mewn byd ar ôl Brexit."
'Angen sefydlogrwydd'
Mae Lesley Griffiths wedi galw ar Lywodraeth y DU i amlinellu cyfran y cyllid y bydd Cymru'n derbyn ar ôl gadael yr UE, gan addo y byddai'n cael ei neilltuo.
Ar hyn o bryd mae ffermydd Cymru yn derbyn tua £300m y flwyddyn yn sgil Polisi Amaethyddol Cyffredin yr UE.
Maen nhw'n llawer mwy dibynnol ar y taliadau na ffermwyr yn Lloegr, ac mewn rhai achosion mae'r cymorthdaliadau'n cyfrannu hyd at 80% o incwm y fferm yng Nghymru, gyda'r cyfartaledd ar draws Prydain yn 55%.

Dywedodd Llywydd NFU Cymru, John Davies (chwith) y byddai dal angen rhyw fath o sefydlogrwydd ariannol ar ffermwyr
Mae tua pedair rhan o bump o dir amaethyddol yng Nghymru yn cael ei ystyried yn "llai ffafriol" ar gyfer ffermio.
Yn sgil y ffactorau yma mae llywydd NFU Cymru, John Davies, am weld rhyw fath o gymhorthdal uniongyrchol a pharhaol yn rhan o gynlluniau Llywodraeth Cymru.
"'Dan ni'n credu bod angen targedu ac ystyried tri pheth - cymorth ar gyfer cynhyrchiant, cymorth ar gyfer yr amgylchedd, a rhaid ystyried ffactorau o anwadalwch hefyd.
"Mae'n bwysig ein bod yn cydnabod bod y gost o amaethu'n uwch yng Nghymru - mae angen rhyw fath o fesur sefydlogrwydd arnom ni."

Dywedodd Rhys Evans o RSPB Cymru fod y cynlluniau'n rhoi "cyfle i bawb"
Dywedodd Rhys Evans, Swyddog Polisi Defnydd Tir RSPB Cymru eu bod yn falch o weld cynlluniau newydd y llywodraeth.
"'Dan ni'n meddwl ei fod yn bolisi dewr a mentrus iawn ac os fydd o'n cael ei weithredu'n addas, mi fydd yn cynnig dyfodol llewyrchus i ffermwyr Cymru, rheolwyr tir, yr amgylchedd a bywyd gwyllt," meddai.
"Beth 'dan ni'n ei groesawu'n fawr yn y ddogfen ydy fod y Cynllun Nwyddau Cyhoeddus ar gael i ystod eang o ffermwyr. Dydy o ddim yn gyfyngedig i ffermwyr yr ucheldir er enghraifft, mae 'na gyfle i bawb."
Mae Geraint Davies o fferm Fedw Arian Uchaf ger Y Bala, hefyd yn gadeirydd Rhwydwaith Ffermio Natur Gyfeillgar yng Nghymru, corff sy'n hyrwyddo ffermio cynaliadwy.
Dywedodd ei fod yn credu y gallai'r pwyslais ar gynlluniau amgylcheddol fod o fudd i ffermwyr mynydd fel ei hun, ac ychwanegodd nad oedd yn ofni colli'r taliad uniongyrchol.
Geraint Davies yn croesawu'r cynlluniau ariannu amaeth
"Mae'n rhywbeth sydd ddim yn gweithio ar draws amaeth - mae'n siwtio rhai, a rhai eraill dydy o ddim yn siwtio," meddai.
"Felly mae posibilrwydd rŵan i gael o fel bod pawb yn gallu elwa allan o unrhyw beth sy'n dod yn y dyfodol.
"Mae potensial gwneud hwn weithio'n berffaith ond mae 'na bryder hefyd - mae genna ni rheolau'r WTO [Sefydliad Masnach y Byd].
"Os geith y Torïaid ffordd eu hunain a chael yr hard Brexit, fel mae rhai ohonyn nhw eisiau, mi allith o fod yn llanast llwyr ar amaeth yng Nghymru.
"Mae'n costio i ni gynhyrchu'n cig oen ac os fydd 'na dariff arno fo i'w yrru dros y dŵr, mae'n mynd i hitio lot o fusnesau allan o fusnes."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd5 Ionawr 2018