'Dim pryder' am lefelau cronfeydd dŵr yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Llyn Brianne yn llawn - a llun ar ôl y cyfnod sych diweddarFfynhonnell y llun, Dysdera/Geograph/Geraint Llewelyn
Disgrifiad o’r llun,

Llyn Brianne yn llawn - a llun o'r gronfa ar ôl y cyfnod sych diweddar

Er gwaetha'r tywydd poeth mae lefelau cronfeydd dŵr yn "agos i'r hyn sydd i'w ddisgwyl ar gyfer amser yma'r flwyddyn", yn ôl Dŵr Cymru.

Daw hyn er gwaethaf lluniau diweddar yn dangos effaith y tywydd poeth ar y tirwedd yng Nghymru.

Ond yn ôl Dŵr Cymru fe allai cwsmeriaid ddefnyddio cymaint o ddŵr ag sydd ei angen, ond iddyn nhw "wneud hynny mewn modd cyfrifol".

Yn y cyfamser, mae trefnwyr y Sioe Frenhinol wedi tawelu ofnau am ganslo'r sioe oherwydd y tywydd poeth, gan ddweud bod ganddyn nhw eu cyflenwad dŵr eu hunain.

Symud dŵr i Loegr

Fe wnaeth y tywydd poeth gyrraedd record o 32.6C ym Mhorthmadog ddiwedd Mehefin, ac mae'r heulwen a'r tymheredd uchel wedi parhau ledled y wlad yn ystod mis Gorffennaf.

Mae dŵr yn cael ei symud o Gymru i ogledd-orllewin Lloegr fodd bynnag, yn dilyn pryderon y bydd gwaharddiad ar bibelli dŵr yn dod i rym yn fuan.

Dywedodd United Utilities fod lefelau cronfeydd yno wedi gostwng yn sylweddol, a bod "cynnydd anferth" yn y galw am ddŵr mewn llefydd fel Manceinion.

Ffynhonnell y llun, Geraint Llewelyn
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd cronfa Llyn Brianne ei hadeiladu i reoli llif Afon Tywi

Un ardal yng Nghymru lle mae effaith y tywydd sych i'w weld yn amlwg yw Llyn Brianne yn y canolbarth.

Mae'r gronfa yn rheoli llif Afon Tywi, ac yn helpu i gyflenwi dŵr i ran sylweddol o'r de.

Ond er i'r lluniau ddangos effaith y tywydd poeth diweddar, dywedodd swyddogion nad yw'r lefelau'n effeithio ar allu'r gronfa i gyflenwi.

Ar y llaw arall dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru y gallai lefelau rhai afonydd fod yn achos pryder ar gyfer pysgod a bywyd gwyllt pe bai'r tywydd poeth yn parhau.

"Dydyn ni ddim wedi cyrraedd y lefelau isaf ar gofnod eto, ond rydyn ni'n gweld rhai lefelau isel gyda risg i bysgod," meddai Natalie Hall, rheolwr dŵr CNC.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn haf sych 1976 cafodd olion hen bont yng nghronfa Llwyn Onn eu gweld am y tro cyntaf ers 50 o flynyddoedd

Dywedodd fod swyddogion yn monitro'r dŵr sy'n cael ei gymryd o'r afonydd gan sicrhau eu bod yn cyd-fynd ag amodau trwyddedau.

"Byddwn yn annog pobl i ddechau meddwl am y dŵr maen nhw'n ei ddefnyddio - mae o hyd yn beth call i ddefnyddio dŵr yn effeithiol."

Dŵr i'r rhwydwaith

Dywedodd Dŵr Cymru eu bod yn pwmpio un biliwn litr o ddŵr o gronfeydd i'r system er mwyn ateb y galw am ddŵr yn y tywydd peth.

Dywedodd Peter Perry, rheolwr gyfarwyddwr: "Mae lefelau dŵr y cronfeydd yr hyn y byddwn yn disgwyl ar gyfer yr adeg yma o'r flwyddyn, a does yna ddim pryder am y lefelau o ran yr ardal rydym yn gwasanaethu.

"Ond yn amlwg mae cwsmeriaid yn defnyddio mwy o ddŵr yn ystod y tywydd poeth, ac felly rydym angen sicrhau y gallwn gyflenwi cwsmeriaid.

"Mae ein staff yn gweithio ddydd a nos i atgyweirio unrhyw bibellau sy'n gollwng, ac yn defnyddio tanceri i roi mwy o ddŵr i'r rhwydwaith."

Yn y cyfamser mae Prif Weithredwr y Sioe Frenhinol wedi ceisio tawelu ofnau am ganslo'r sioe oherwydd y tywydd poeth, gan ddweud bod ganddyn nhw gyflenwad dŵr eu hunain.

Dywedodd Steve Hughson bod cynlluniau ar gyfer "pob math o sefyllfaoedd, gan gynnwys tywydd poeth" a'u bod yn adolygu cynlluniau yn aml.

"Mae ganddon ni adeiladu sydd wedi eu hawyru yn ddigonol a'n cyflenwad dŵr ein hunain, yn ogystal â chyflenwad dŵr o'r pibau arferol," meddai.

"Ar hyn o bryd nid ydyn ni'n poeni ynglŷn â lefelau'r dŵr sydd ar gael ar y safle ac nid oes cynlluniau i newid y trefniadau presennol chwaith.

"Fe fyddwn ni wrth gwrs yn cadw golwg ar y rhagolygon tywydd hirdymor, sydd ar hyn o bryd yn rhagweld tywydd oerach a mwy cyfnewidiol wythnos nesaf."