Guto Bebb: Ymddiswyddiad Boris Johnson yn 'hunanol'

  • Cyhoeddwyd
Guto Bebb

Mae Theresa May wedi cael ei chryfhau yn sgil ymddiswyddiadau diweddar o gabinet Llywodraeth y DU, yn ôl AS o Gymru.

Fe ymddiswyddodd yr Ysgrifennydd Tramor Boris Johnson a'r Ysgrifennydd Brexit David Davis o ganlyniad i gynllun Brexit diweddaraf y prif weinidog.

Ond dywedodd Guto Bebb nad oedd yn credu bod her i arweinyddiaeth yn debygol o ddigwydd yn y dyfodol agos.

Yn ôl Mr Bebb, sy'n weinidog yn yr Adran Amddiffyn, mae nifer o ASau yn gweld ymddiswyddiad Mr Johnson fel "gweithred hunanol".

Daeth ymddiswyddiad Mr Johnson ychydig cyn i Mrs May drafod y cynllun Brexit newydd yn Nhŷ'r Cyffredin ddydd Llun.

Mae Jeremy Hunt bellach wedi cael ei benodi i'r swydd honno, gyda Dominic Raab yn cael ei benodi'n weinidog yn Adran Brexit, yn dilyn ymadawiad Mr Davis.

'Dim pleidlais diffyg hyder'

Wrth siarad ar raglen y Post Cyntaf ddydd Llun, dywedodd Mr Bebb nad oedd yn credu y byddai 'na bleidlais diffyg hyder, a phetai un yn cael ei chynnal yna byddai Ms May yn "ennill yn gyfforddus".

Dywedodd AS Aberconwy bod ymddiswyddiad Mr Johnson yn cryfhau'r gefnogaeth sydd gan Ms May gan ASau Ceidwadol sydd eisiau delio â Brexit mewn ffordd "bragmataidd".

Mae Mr Bebb wedi beirniadu aelodau eraill o'r blaid yn ddiweddar am eu hagwedd tuag at y prif weinidog.

"Dwi'n meddwl bod penderfyniad Boris Johnson i ymddiswyddo yn weithred hunanol, a dwi'n meddwl fod yna ddicter tuag ato ymysg aelodau'r blaid," meddai.

"Roedd yna deimlad fod angen amddiffyn y prif weinidog rhag unigolyn sydd wedi gwneud penderfyniad er ei fudd ei hun."

Er hyn dywedodd fod rhai ar y meinciau cefn yn cydymdeimlo â Mr Davis, nid oherwydd eu bod nhw'n cytuno â'i safbwynt, ond oherwydd y gred iddo gael ei "wthio i'r ymylon yn y broses o wneud penderfyniadau".

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Alun Cairns bod "llawer iawn o gefnogaeth" i'r gynllun Brexit diweddaraf Theresa May

Yn siarad ddydd Mawrth, dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns ei fod yn "gwbl gefnogol" o'r cytundeb a bod "llawer iawn o gefnogaeth" mewn cyfarfod o ASau Ceidwadol nos Lun.

Er hynny, dywedodd bod aelodau'n "siomedig" i golli cydweithwyr o'r cabinet, ond y byddai'n rhaid i Boris Johnson a David Davis esbonio eu penderfyniadau eu hunain gan eu bod yn ymddangos yn gefnogol yn Chequers.

"Y gwirionedd yw bod rhaid ein bod yn ateb y galwadau sy'n dod o'r refferendwm, ond hefyd... Mae'n rhaid ein bod ni'n edrych ar ôl y swyddi fel sydd yn Airbus, yn Toyota, a'r busnesau bychain ledled Cymru sy'n allforio i'r Undeb Ewropeaidd..."

Ychwanegodd y byddai ystod eang o gyfleoedd "cyffrous iawn" yn dod wedi Brexit, ond bod rhaid manteisio arnyn nhw "gyda'r cydbwysedd o gael dêl gyda'r Undeb Ewropeaidd hefyd".