Gwres llethol 'cynddrwg ag eira' i bobl ddigartref

  • Cyhoeddwyd
Dyn digartrefFfynhonnell y llun, Thinkstock

Mae elusen The Wallich yn pryderu am les pobl ddigartref yn ystod y tywydd poeth.

Maen nhw wedi gweld cynnydd aruthrol yn nifer y bobl sydd angen cymorth eleni oherwydd y tywydd eithafol.

Dywedodd prif weithredwr yr elusen fod byw allan yn y gwres llethol "cynddrwg â byw allan yn yr eira."

Mae The Wallich yn elusen sy'n gweithio i helpu pobl ddigartref yng Nghaerdydd, Abertawe, Casnewydd, Pen-y-bont a Wrecsam.

Syched a salwch

Mae gweithwyr yr elusen wedi dod ar draws nifer o unigolion digartref sy'n dioddef o syched ac o salwch wedi eu hachosi gan y gwres llethol.

Dywedodd Lindsay Cordery-Bruce, Prif Weithredwr The Wallich: "Mae 'na bobl mas 'na ar y stryd yn dweud wrthon ni fod byw allan yn y gwres cynddrwg â byw allan yn yr eira."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'n anodd i bobl ddigartref ddod o hyd i gysgod yn y tywydd poeth.

"Ni'n gweld nifer o bobl sâl iawn yn cysgu ar ein strydoedd ar hyn o bryd, yn dioddef o drawiad gwres, llosg haul, brathiadau gan bryfed a syched eithafol."

Dywedodd bod modd i'r cyhoedd helpu pobl ddigartref drwy roi poteli dŵr, eli haul, tabledi clefyd y gwair neu bâr o sbectol haul iddyn nhw yn ystod y tywydd poeth.

"Does dim rhaid rhoi arian - mae 'na bethau eraill allwch chi ei wneud i helpu pobl ddigartref."