Tawel Fan: Disgwyl mwy o feirniadaeth o Betsi Cadwaladr
- Cyhoeddwyd
![Tawel Fan](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/6F3C/production/_102467482_tawel6.jpg)
Cafodd ward Tawel Fan ei chau ym mis Rhagfyr 2013 yn dilyn pryderon
Mae disgwyl i adroddiad newydd feirniadu rheolaeth ar ward iechyd meddwl yng ngogledd Cymru yn ddiweddarach ddydd Iau.
Fe wnaeth ymchwiliad annibynnol gafodd ei gyhoeddi fis Mai feirniadu'r ffordd roedd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi trin gofal iechyd meddwl.
Mae'r adroddiad diweddaraf, a ddaw yn dilyn problemau yn ward Tawel Fan, yn canolbwyntio ar faterion arweinyddiaeth a llywodraethiant.
Cafodd y ward seiciatrig 17 gwely ei chau yn 2013, ond fe benderfynodd yr ymchwiliad annibynnol nad oedd tystiolaeth o gam-drin sefydliadol yno.
Diffygion, ond dim cam-drin
Dyma ail adroddiad Donna Ockenden i ward Tawel Fan. Cafodd ei hadroddiad cyntaf, hynod feirniadol, ei gyhoeddi yn 2015.
Ym mis Mai eleni, cafodd casgliadau ymchwiliad annibynnol eu cyhoeddi.
![Teuluoedd Tawel Fan](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/02F3/production/_101155700_img_1646.jpg)
Mae teuluoedd rhai o gleifion Tawel Fan wedi bod yn feirniadol o gasgliadau ymchwiliad Hascas
Roedd yr ymchwiliad hwnnw, gan Dr Androulla Johnstone ar ran Hascas - Health and Social Care Advisory Service - yn datgelu diffygion mawr mewn gofal iechyd meddwl yn ardal Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.
Ond daeth i'r casgliad nad oedd yn gam-drin sefydliadol ac roedd yn feirniadol o'r modd roedd Ms Ockenden wedi cynnal ei harolwg, gan wrthod ei phrif gasgliadau.
'Syrcas'
Er hyn, roedd rhai teuluoedd yn feirniadol o gasgliadau'r ymchwiliad, gan ei gyhuddo o wyngalchu'r sefyllfa.
Cafodd adroddiad cyntaf Dr Ockenden ei gyhoeddi yn 2015, ddwy flynedd wedi i'r ward gau, ac roedd yn cynnwys honiadau gan un teulu bod un o'r wardiau fel "syrcas".
Honnodd ei hadroddiad bod diffyg gofal proffesiynol, tosturiol ac urddasol yn yr uned.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Mai 2018
- Cyhoeddwyd3 Mai 2018
- Cyhoeddwyd3 Mai 2018