Pryder am ddysgu sgiliau digidol mewn rhai ysgolion

  • Cyhoeddwyd
disgyblion yn defnyddio'r cyfrifiadur

Mae corff arolygu Estyn wedi codi pryderon am y ffordd mae sgiliau digidol yn cael eu dysgu mewn rhai ysgolion.

Yn ôl strategaeth Llywodraeth Cymru, dylai cymhwysedd digidol disgyblion gael ei ystyried yr un mor bwysig â sgiliau llythrennedd a rhifedd.

Cafodd y Fframwaith Cymhwysedd Digidol ei gyflwyno dwy flynedd yn ôl ond mewn adroddiad newydd mae Estyn yn rhybuddio nad yw rhai ysgolion yn ei weithredu'n effeithiol.

Nod y fframwaith yw sicrhau bod gan ddisgyblion ystod eang o sgiliau digidol gan gynnwys ymddygiad priodol ar-lein, y gallu i greu cynnwys digidol a chyfathrebu'n llwyddiannus gan ddefnyddio technoleg newydd.

Mae'r strategaeth yn nodi dylai sgiliau o'r fath gael eu dysgu ar draws y cwricwlwm.

Yn ôl yr arolygwr Maldwyn Pryse, er gwaetha'r ffaith bod nifer o ysgolion yn gweithredu'r fframwaith yn llwyddiannus, mae rhai ymhellach ar y blaen.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd yr adroddiad fod nifer o ysgolion yn gweithredu'r fframwaith yn llwyddiannus

"Pwrpas yr adroddiad yma yw rhoi syniadau i'r ysgolion a sylweddoli pa gamau alle fod o help iddyn nhw symud ymlaen," meddai.

"Mae'r ysgolion fuon ni'n ymweld â nhw wedi gweithio'n galed.

"Maen nhw wedi mapio'r fframwaith allan ar draws y pynciau, ond dy'n nhw ddim wedi edrych a yw cynnwys y fframwaith wedi mapio allan yn llwyr.

"Hynny yw dy'n nhw ddim wedi adnabod oes 'na fylchau, ac a fydd yna fylchau ym mhrofiadau'r disgyblion.

"Felly mae hwnna'n rhywbeth i weithio arno fe a rhywbeth i gadw golwg arno fe."

Fe gododd Mr Pryse bryderon penodol am ysgolion uwchradd, ac mae adroddiad Estyn yn dweud nad yw'r rhan fwyaf ohonyn nhw wedi paratoi yn ddigon da i wireddu'r fframwaith yn ei gyfanrwydd.

Daw'r cyhoeddiad ar ôl i adroddiad blynyddol y corff arolygu godi pryderon yn Ionawr bod sgiliau digidol disgyblion 'ar ei hôl hi'.